Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 8 Chwefror 2017.
Diolch yn fawr iawn. Mi gyhoeddodd y tasglu gweinidogol ar gyfer modelau cyflenwi adroddiad yr wythnos diwethaf ar yr opsiynau posib ar gyfer darpariaeth athrawon cyflenwi yn y dyfodol. Wrth gwrs, dyma’r ail adroddiad i ymddangos ar y pwnc yma mewn rhyw flwyddyn a hanner. A gaf fi ofyn faint o gynnydd y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn ystyried sydd wedi bod i fynd i’r afael â’r problemau ynghylch darpariaeth athrawon cyflenwi ers adroddiad gwreiddiol Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad yma yn ôl yn 2015? A ydym ni’n unrhyw agosach at y lan, neu, fel y mae rhai o’r undebau ac eraill yn ei awgrymu, a ydy’r blynyddoedd diwethaf wedi cael eu gwastraffu i bob pwrpas a bod yr adroddiad yma yn enghraifft arall o fethu cyfle?