<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 8 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:40, 8 Chwefror 2017

Wel, rwy’n falch eich bod chi’n cydnabod, efallai, nad oedd yr adroddiad yn cyrraedd rhai o’r disgwyliadau oedd mas yna. Yn sicr, mae yna deimlad o rwystredigaeth fod yna 18 mis arall, o bosib, o waith yn mynd i ddigwydd cyn ein bod ni’n cyrraedd rhyw bwynt lle, efallai, y byddwn ni’n gweld gwahaniaeth gwirioneddol. Ac, wrth gwrs, rydych chi’n iawn hefyd i gydnabod bod yna bwysau cynyddol o safbwynt y ddarpariaeth, oherwydd rŷm ni’n ymwybodol, o gyfrifiad mwyaf diweddar y gweithlu addysg y llynedd, fod niferoedd yr athrawon yng Nghymru wedi disgyn yn flynyddol ers rhyw chwe mlynedd. Rŷm ni hefyd yn gwybod, dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, fod yna gyfnod o gryn newid yn mynd i fod o fewn y gyfundrefn addysg yng Nghymru, gyda nifer o ddiwygiadau ar y gweill, o’r cwricwlwm, fel roeddech chi’n sôn, i ddatblygu proffesiynol ac yn y blaen. Felly, mi fydd y galwadau ar ein hathrawon ni a’r angen efallai i’w tynnu nhw mas o’r dosbarth yn cynyddu ar yr union amser pan fydd niferoedd athrawon yn lleihau. Ac yn y fath sefyllfa, mae’n anochel y bydd rhan gynyddol bwysig i athrawon cyflenwi i’w chwarae wrth gefnogi ysgolion. A gaf i ofyn, felly, sut ydych chi’n bwriadu sicrhau cyflenwad digonol o athrawon cyflenwi, nid mewn dwy flynedd neu mewn tair blynedd, ond yn y cyfnod tyngedfennol nesaf yma sydd i ddod?