Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 8 Chwefror 2017.
Wel, yn sicr nid wyf yn tanbrisio cyfraniad gweithwyr cymorth dysgu i system addysg Cymru. Mae llawer o athrawon dosbarth a phenaethiaid yn dweud wrthyf na fuasai eu hysgolion yn gweithredu cystal ag y maent yn ei wneud heb allu’r unigolion hyn i helpu yn eu hysgolion, yn enwedig yn y cyfnod sylfaen. Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ehangu nifer y cynorthwywyr cymorth dysgu cymwysedig lefel uwch oherwydd eu bod mor werthfawr i ni. Yr wythnos diwethaf yn unig, pasiwyd y rheoliadau ar gyfer eu cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Rydym yn eu hystyried yn bwysig, dyna pam rydym am iddynt fod yn broffesiwn cofrestredig, dyna pam rydym yn eu cefnogi drwy ostwng eu ffioedd cofrestru, a byddant yn rhan bwysig o’r ffordd yr ydym yn cynllunio’r gweithlu ar gyfer ein hysgolion a’n colegau yn y dyfodol.