<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 8 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 1:46, 8 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n hapus gyda rhai o’r datblygiadau hynny, ond wrth gwrs, canfu’r prif arolygydd broblemau gyda mwy nag ansawdd yr addysgu a’i amrywioldeb. Canfu broblemau hefyd yn ein hunedau cyfeirio disgyblion. Dywedodd fod y ddarpariaeth mewn unedau cyfeirio disgyblion yn parhau i fod yn arbennig o wael, ac wrth gwrs, rydych chi a minnau’n gwybod bod llawer o’r unigolion mewn unedau cyfeirio disgyblion yn ddysgwyr sy’n agored i niwed. Pa gamau penodol sydd ar waith gennych i godi’r safonau mewn unedau cyfeirio disgyblion?