<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 8 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 1:48, 8 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’n ymwneud â mwy na’r rhai sydd mewn unedau cyfeirio disgyblion y tu allan i ysgolion prif ffrwd; mae gennym broblemau yn ein hysgolion prif ffrwd yn ogystal. Unwaith eto, roedd canfyddiadau’r prif arolygydd yn cyd-fynd yn agos iawn â chanfyddiadau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, a oedd yn dangos nad yw plant sy’n fwy abl a thalentog—y plant mwy dawnus hynny—yn cyrraedd eu potensial yn ein hysgolion prif ffrwd, ac mae’n debyg nad ydynt yn cael digon o’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ddatblygu’r potensial hwnnw. Pa gamau a roddir ar waith gennych i gefnogi’r disgyblion nad ydynt yn cael y sylw y maent yn ei haeddu ar hyn o bryd, yn enwedig y plant dawnus hynny?