<p>Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 8 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 1:57, 8 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, fel y dywedais, Dai, mae swyddogion yn parhau i siarad yn rheolaidd gyda chyngor dinas Abertawe. Rydym am sicrhau bod y cynigion sydd ar hyn o bryd ym mand A y rhaglen yn cael eu cyflawni, ac rydym am sicrhau gwerth gorau am arian Llywodraeth Cymru pan ddaw band B yn weithredol. Rydym yn gwneud hyn mewn dull partneriaeth, felly mae angen dealltwriaeth glir o’r hyn y mae cyngor Abertawe yn awyddus i’w wneud, ac fel y dywedais, ni fuasem yn disgwyl i unrhyw oedi yn yr adran gynllunio effeithio ar ein gallu i fuddsoddi yn y capasiti ysgolion sydd ei angen ar Abertawe, ni waeth a yw’r capasiti hwnnw’n gyfrwng Cymraeg neu Saesneg.