1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 8 Chwefror 2017.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am raglen ysgolion yr 21ain ganrif yn Nwyrain Abertawe? OAQ(5)0081(EDU)
Diolch i chi, Mike. Buddsoddir dros £51 miliwn ym mand A y rhaglen addysg ac ysgolion yr 21ain ganrif mewn ysgolion yn Abertawe dros y cyfnod o bum mlynedd sy’n dod i ben yn 2019. O’r swm hwn, bydd dros £34 miliwn wedi cael ei wario yn etholaeth Dwyrain Abertawe.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb ac am ymweld ag ysgol Burlais sydd newydd ei hadeiladu, yn enwedig gan fod ysgol Burlais wedi’i hadeiladu yn lle dwy ysgol yr oedd angen eu hadnewyddu yn sgil problemau difrifol iawn gyda’u hadeiladau—roedd ganddynt ddŵr yn rhedeg y tu mewn i’r ysgol bob tro y byddai’n bwrw glaw. Rwyf hefyd wedi gwahodd Ysgrifennydd y Cabinet i ymweld ag ysgol Blaenymaes, sydd ar raglen ailadeiladu’r cyngor. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd y rhaglen ysgolion 21ain ganrif yn parhau?
Wel, Mike, roeddwn yn falch iawn o weld ysgol newydd Burlais a’r gwahaniaeth y mae’r adeilad yn ei wneud i addysg plant yn yr ardal. Rwyf hefyd yn falch iawn o dderbyn gwahoddiad i ymweld ag ysgol Blaenymaes. Fy niweddar nain, Mary Hall, oedd yr uwch gogydd yn Ysgol Blaenymaes am flynyddoedd lawer. Fe bliciodd lawer o datws ar gyfer y plant yn ei hamser. Felly, mae’r cyfle i ymweld â Blaenymaes yn un rwy’n ei groesawu’n fawr iawn. Rwy’n falch o gadarnhau hefyd fod gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i ddatblygu band B y rhaglen addysg ac ysgolion yr 21ain ganrif, ac mae ton nesaf y buddsoddiad hwn i fod i ddechrau yn 2019 a rhedeg dros y cyfnod o bum mlynedd nes 2024.
Fe sonioch am y blaengynllun yno, ond yn ôl swyddogion, mae cynllun datblygu lleol cyngor Abertawe, sydd braidd yn ddadleuol, rhaid cyfaddef, yn debygol o gael ei ohirio yn awr, ac mae rhan o raglen ysgolion yr 21ain ganrif yn anelu i fynd i’r afael â chapasiti, wrth gwrs, mewn ysgolion sy’n orlawn a’r rhai sydd â lleoedd gwag. Os caiff y cynllun datblygu lleol ei ohirio, pa effaith y credwch y gallai hyn ei chael ar y cynlluniau ar gyfer y safleoedd a chapasiti ysgolion yn Abertawe? Mae’n ymddangos i mi ei fod yn awdurdod lleol sy’n dal i geisio deall y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, heb sôn am unrhyw beth arall, a hynny er y gallant ddefnyddio’r cynllun datblygu lleol fel cyfle i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn ogystal â fel bygythiad. Diolch.
Wel, mae’n siomedig y bydd oedi ar y cynllun datblygu lleol, gan mai un o egwyddorion craidd y rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif yw sicrhau bod gennym y nifer cywir o leoedd ysgol yn y lle iawn. Yn aml, mae’r cynigion i ddatblygu cytref neu dref neu bentref penodol yn allweddol yn y broses o gymeradwyo grant i ysgol 21ain ganrif, a allai fod â chapasiti mwy nag sydd ei angen ar hyn o bryd, oherwydd ein bod yn gwybod bod tai’n mynd i gael eu hadeiladu. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio’n agos iawn gyda chyngor Abertawe i sicrhau na fydd oedi yn eu hadran gynllunio yn effeithio ar ein gallu i wneud yr hyn yr wyf am ei wneud, a’r hyn y mae’r Aelod am ei wneud, rwy’n siŵr, sef gweld buddsoddiad parhaus yn ysgolion Abertawe.
Yn dilyn yr un thema mewn gwirionedd, pa drafodaethau penodol a gawsoch gyda Dinas a Sir Abertawe i geisio sicrhau nad yw’r gofynion cynllunio addysg cyfredol yn cael eu gohirio’n afresymol neu’n amwys o ganlyniad i’r oedi hwn yn y cynllun datblygu lleol?
Wel, fel y dywedais, Dai, mae swyddogion yn parhau i siarad yn rheolaidd gyda chyngor dinas Abertawe. Rydym am sicrhau bod y cynigion sydd ar hyn o bryd ym mand A y rhaglen yn cael eu cyflawni, ac rydym am sicrhau gwerth gorau am arian Llywodraeth Cymru pan ddaw band B yn weithredol. Rydym yn gwneud hyn mewn dull partneriaeth, felly mae angen dealltwriaeth glir o’r hyn y mae cyngor Abertawe yn awyddus i’w wneud, ac fel y dywedais, ni fuasem yn disgwyl i unrhyw oedi yn yr adran gynllunio effeithio ar ein gallu i fuddsoddi yn y capasiti ysgolion sydd ei angen ar Abertawe, ni waeth a yw’r capasiti hwnnw’n gyfrwng Cymraeg neu Saesneg.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan y rhan fwyaf o’r ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn Abertawe gymarebau disgybl/athro sy’n uwch na 25, ac mae pob un ond un yn y categorïau cymorth melyn ac oren. Mae hyn, ynghyd â newyddion diweddar yn tynnu sylw at yr anhawster i recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg, a newyddion am yr oedi difrifol o ran cyflwyno’r cwricwlwm, yn destun pryder. Ysgrifennydd y Cabinet, beth a wnewch i roi sicrwydd i rieni yn fy rhanbarth ynglŷn â dyfodol addysg eu plant mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg? Diolch.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod y broses o gynllunio darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn rhan o gylch gwaith fy nghyd-Aelod, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith, ac sydd ar hyn o bryd yn ystyried y ffordd orau o sicrhau bod y cynlluniau Cymraeg mewn addysg a gyflwynwyd yn ddigonol ac yn uchelgeisiol. Rydym yn deall bod gan addysg rôl allweddol i’w chwarae os ydym yn mynd i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o 1 filiwn ychwanegol o siaradwyr Cymraeg. O brofiad fy nheulu fy hun, lle y cafodd yr iaith ei cholli yn fy nghenhedlaeth i a chenhedlaeth fy ngŵr, gwn fod y gallu i fynychu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg wedi dod â’r iaith yn ôl i fy nheulu, ac rwy’n hynod o falch o weld plant y mae eu rhieni’n siarad Saesneg yn gallu siarad â’u rhieni yn Saesneg a siarad â’u mam-gu a’u tad-cu yn Gymraeg yn yr un sgwrs. Dyna pam rydym wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod awdurdodau lleol yr un mor uchelgeisiol â ninnau dros addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru.