Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 8 Chwefror 2017.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod y broses o gynllunio darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn rhan o gylch gwaith fy nghyd-Aelod, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith, ac sydd ar hyn o bryd yn ystyried y ffordd orau o sicrhau bod y cynlluniau Cymraeg mewn addysg a gyflwynwyd yn ddigonol ac yn uchelgeisiol. Rydym yn deall bod gan addysg rôl allweddol i’w chwarae os ydym yn mynd i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o 1 filiwn ychwanegol o siaradwyr Cymraeg. O brofiad fy nheulu fy hun, lle y cafodd yr iaith ei cholli yn fy nghenhedlaeth i a chenhedlaeth fy ngŵr, gwn fod y gallu i fynychu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg wedi dod â’r iaith yn ôl i fy nheulu, ac rwy’n hynod o falch o weld plant y mae eu rhieni’n siarad Saesneg yn gallu siarad â’u rhieni yn Saesneg a siarad â’u mam-gu a’u tad-cu yn Gymraeg yn yr un sgwrs. Dyna pam rydym wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod awdurdodau lleol yr un mor uchelgeisiol â ninnau dros addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru.