<p>Amser Athrawon o ran Cynllunio, Paratoi ac Asesu </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 8 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:00, 8 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’n dda clywed bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cefnogi’r hyblygrwydd hwnnw. Yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yr wythnos diwethaf, dywedodd Undeb Cenedlaethol yr Athrawon fod CPA yn broblem fawr mewn ysgolion cynradd yn benodol. Neil Foden o NUT Cymru a ddywedodd fod ysgolion yn rhyddhau athrawon ar gyfer y 10 y cant gofynnol o’u hamser addysgu ac yn eu rhyddhau o’u llwyth gwaith, sydd i’w groesawu ac yn beth da. Fodd bynnag, dywedodd hefyd fod llawer o ysgolion yn cyflawni hyn drwy ddefnyddio staff heb statws athro cymwysedig, megis cynorthwywyr dosbarth neu gynorthwywyr addysgu lefel uwch. Gall hyn olygu—a dyma beth a ddywedodd—nad yw disgyblion yn cael eu haddysgu gan athro cymwysedig am yr hyn sy’n cyfateb i un mis mewn blwyddyn academaidd. Mae angen i ni ddod o hyd i ateb i hyn os yw hynny’n wir. Felly, lle y bo angen lleihau capasiti addysgu mewn rhai ysgolion o bosibl, oni fuasai’n fwy priodol defnyddio’r capasiti addysgu hwnnw i gyflenwi dros CPA, fel athro fel y bo’r angen, efallai, gyda chyfrifoldeb am gyflenwi dros CPA, neu ddod o hyd i atebion creadigol eraill i’r broblem hon?