Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 8 Chwefror 2017.
Diolch i chi, Hefin. Os caf fod yn gwbl glir, oherwydd rwy’n credu bod y rheoliadau sy’n llywodraethu pwy sy’n cael addysgu yng Nghymru yn glir: athrawon cymwys yn unig—rhai sydd â statws athro cymwysedig—sy’n cael gwneud gwaith penodol, h.y. addysgu. Mae gennym sefyllfa wahanol iawn yma yng Nghymru i’r hyn a welech dros y ffin, ac mae’n wahaniaeth rwy’n falch iawn ohono. Gall ysgolion gyflogi athro fel y bo’r angen gyda chymwysterau addas. Fel chi, rwy’n cydnabod bod yna fanteision i barhad a sicrwydd ansawdd o gael athrawon fel y bo’r angen sy’n cael eu cyflogi naill ai mewn un ysgol, neu mewn clwstwr o ysgolion, efallai, i gyflenwi dros athrawon absennol neu i sicrhau bod yr athrawon hynny’n cael yr amser CPA sydd ei angen arnynt. Buaswn yn ystyried hynny’n arfer da. Yn y pen draw, fodd bynnag, mater i ysgolion unigol, cyrff llywodraethu a’r AALl yw strwythurau staffio.