<p>Ffiniau Rhwng Addysg Bellach ac Addysg Uwch</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 8 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:04, 8 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n croesawu’r datganiad hwnnw a’r mesurau y mae hi newydd eu nodi mewn ymateb i adolygiad Hazelkorn. Yn ei thystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 10 Tachwedd, dywedodd y bydd disgwyl yn y dyfodol mwy uniongyrchol—cyn i’r ymgynghori pellach hwnnw ddigwydd—pan fydd yn cyflwyno ei llythyr cylch gwaith blynyddol, y bydd rhan o’r arian sydd wedi bod yn mynd i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn cael ei ddefnyddio i wella’r berthynas rhwng addysg bellach ac addysg uwch. Dywedodd y byddai’n cynnwys hynny yn y llythyr cylch gwaith. Yn yr un cyfarfod, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes nad yw am weld ffin rhwng addysg bellach ac addysg uwch. Sut, yn benodol, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau, yn ei llythyr cylch gwaith nesaf, sydd i ddod yn fuan iawn, fod hynny’n mynd i ddigwydd?