<p>Ysgolion Cyfrwng Cymraeg </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 8 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:08, 8 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i’r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Fel rhywun sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers blynyddoedd lawer, rwy’n gwybod pa mor anodd yw hi i ddysgu fel oedolyn. Mae’r Gweinidog wedi dweud bod yna 8,804 o blant pum mlwydd oed mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd, sy’n cyfateb, gan ragdybio disgwyliad oes o 85 mlynedd, i rywbeth tebyg i 850,000 o siaradwyr Cymraeg—ychydig bach yn llai o bosibl—o siaradwyr Cymraeg yn 2097. Hynny yw, oni bai bod mwy o blant pum mlwydd oed yn dechrau mewn addysg cyfrwng Cymraeg dros y blynyddoedd i ddod. A yw’r Gweinidog yn cydnabod y rhifau hyn, ac a all ddweud sut y mae’r Llywodraeth yn bwriadu cynyddu’r niferoedd hyn, fel ein bod yn cyrraedd 1 filiwn erbyn 2097?