<p>Ysgolion Cyfrwng Cymraeg </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 8 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:10, 8 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Weinidog, roeddwn yn fodlon gyda’ch tôn gadarn mewn perthynas â’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, sy’n cael eu datblygu gan awdurdodau lleol ledled Cymru. Rydych chi a minnau’n rhannu’r uchelgais i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yma yng Nghymru, ond ni fyddwn byth yn cyflawni’r uchelgais hwnnw oni bai bod digon o athrawon Cymraeg eu hiaith yn ein hystafelloedd dosbarth. Mae gennym broblem enfawr ar hyn o bryd, sy’n dechrau datblygu, ac yn mynd i barhau i ddatblygu, gyda gostyngiad enfawr yn nifer y bobl sy’n dod i’r proffesiwn addysgu sy’n hyfedr yn y Gymraeg ac yn gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Pa gamau sydd ar y gweill gennych, gydag Ysgrifennydd y Cabinet, i ddenu pobl i’r proffesiwn sy’n mynd i allu cyflawni’r uchelgais godidog yr ydym i gyd yn ei rannu ar gyfer Cymru?