Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 8 Chwefror 2017.
Diolch yn fawr, ac edrychaf ymlaen at weld eich datganiad chi am y cynlluniau hynod siomedig yma. Rydych chi hefyd wedi cyhoeddi’ch awydd i ddiwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yr wythnos diwethaf a’r bwriad o gyflwyno Papur Gwyn cyn yr haf er mwyn hyrwyddo trafodaeth gyhoeddus ar ddarpariaeth y Bil newydd. Nid oedd yn glir i mi o’r datganiad beth yn union fydd gorchwyl y Bil newydd. Er enghraifft, a fydd y Bil yn cwmpasu addysg Gymraeg a meysydd strategol eraill, neu ai dim ond safonau’r iaith a fydd o dan sylw? Wedyn, beth yn union fydd statws y strategaeth Gymraeg yn ystod yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn? Pryder sydd gen i yw y bydd y broses o ddeddfu, yn hytrach na gweithredu o fewn y gyfundrefn sydd gennym ni ar hyn o bryd, yn arafu yn ddirfawr yr ymdrechion i gyrraedd y targed o 1 filiwn o siaradwyr erbyn 2050.