10. 9. Dadl Fer: Meithrin Gwydnwch Emosiynol yn ein Plant a Phobl Ifanc

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:11 pm ar 8 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 6:11, 8 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy’n gwybod bod rhai o’r Aelodau a fynychodd lansiad yr adroddiad ‘Cyflwr Iechyd Plant’ ar gyfer 2017 a drefnwyd gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, wedi gweld y fideo, ond roeddwn yn credu ei bod yn sicr yn werth ei dangos yn ehangach. Hoffwn ddiolch i Naomi Lea a sefydliad Fixers am ganiatáu i ni ddangos y ffilm heddiw, ffilm o’r enw ‘Spot the Signs’, ac mewn ffordd syml iawn ond effeithiol, mae’n annog pob un ohonom i ofyn i ni ein hunain: a fuasem yn adnabod yr arwyddion pe baem yn eu gweld?

Felly, croesawaf y cyfle heddiw i siarad am bwnc rwy’n teimlo’n angerddol iawn yn ei gylch ac un sy’n hanfodol bwysig i bob un ohonom, fel rhieni, gofalwyr ac addysgwyr—sut yr ydym yn meithrin gwydnwch emosiynol yn ein plant a phobl ifanc. Ac rwy’n falch iawn o roi munud o fy amser i Angela Burns heddiw.

Mae problemau iechyd meddwl yn effeithio ar oddeutu un o bob 10 o blant a phobl ifanc, gyda bron i hanner yr holl broblemau iechyd meddwl yn dechrau erbyn 14 oed. Fe ailadroddaf hynny: mae bron i hanner yr holl broblemau iechyd meddwl yn dechrau erbyn 14 oed Mae hwnnw’n ystadegyn a ddylai beri pryder i bob un ohonom. Mae rhwydweithio cymdeithasol bedair awr ar hugain y dydd, straen cynyddol arholiadau, a diwylliant sydd ag obsesiwn â’r corff yn ddim ond rhai enghreifftiau’n unig o’r modd y gall cymdeithas fodern effeithio’n negyddol ar iechyd meddwl a lles ein plant a’n pobl ifanc, ac yn dangos yr angen dybryd i fynd i’r afael â hyn.

Ar ryw adeg yn ystod ein bywydau, bydd llawer ohonom yn gorfod ymdopi ac ymdrin â phroblemau’n ymwneud â lles meddyliol gwael. I rai, gall ymdopi ddod yn naturiol, ond i eraill, efallai y bydd angen iddynt ddysgu neu gael eu dysgu sut i feithrin gwydnwch emosiynol. Felly, mae’n hynod o bwysig fod pobl ifanc yn cael eu dysgu sut i ddatblygu strategaethau ymdopi cadarnhaol a’u bod yn dysgu sut i ofalu am eu hiechyd emosiynol eu hunain.

Rydym ni fel cynrychiolwyr etholedig, yn anffodus, yn rhy gyfarwydd ag etholwyr ifanc sydd wedi cael eu hatgyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol ar gyfer plant ac oedolion, a bydd rhai ohonynt yn dal i aros yn rhy hir am asesiad a thriniaeth. Dywedodd y Gweinidog iechyd blaenorol fod iechyd meddwl plant yn fater i bawb, ac yn hynny, mae’n hollol iawn. Dywedodd wrth y pwyllgor plant blaenorol, wrth drafod yr aros hir am wasanaethau CAMHS mai pen CAMHS y gwasanaeth yw pen clinigol y gwasanaeth; nid oes bwriad, ac nid oedd bwriad erioed iddo fod yn ateb cyfan i bobl ifanc sy’n cael anawsterau wrth iddynt dyfu i fyny, pobl ifanc y mae angen mynd i’r afael â’u hanghenion lles meddyliol. Dywedodd ei fod bob amser yn pryderu bod tynnu person ifanc i mewn i wasanaethau iechyd meddwl arbenigol yn eu labeli mewn modd sy’n byw gyda hwy am amser hir iawn yn ystod eu bywydau ac nad ydym ar unrhyw ystyr ar bwynt lle nad oes cost yn gysylltiedig â label o’r fath o ran stigma ac effeithiau eraill ar fywydau pobl. Felly, dylem bob amser roi sylw i’r ffin honno er mwyn gwneud yn siŵr fod y bobl sydd angen gwasanaeth CAMHS yn ei gael a bod y bobl ifanc y gellir trin eu hanghenion yn well drwy’r gwasanaethau mwy cyffredinol yn cael yr help sydd ei angen arnynt yno. Felly, mae’r cymorth y gall pobl ifanc ei gael cyn CAMHS arbenigol yn gwbl allweddol.

Mae’r ymrwymiadau a’r flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gosod ar fynd i’r afael a datblygu darpariaeth iechyd meddwl fwy effeithiol ar gyfer plant a phobl ifanc drwy’r rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc i’w chroesawu. Gwn fy mod i, ynghyd ag Aelodau Cynulliad eraill, yn parhau i fonitro cynnydd y rhaglen yn ofalus er mwyn sicrhau ei bod yn darparu mynediad prydlon hanfodol i bob CAMHS arbenigol.

Ond mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys ffrydiau gwaith sydd i’w croesawu’n fawr i hyrwyddo gwydnwch cyffredinol a lles ac i hyrwyddo ymyrraeth gynnar a chymorth i blant a phobl ifanc sy’n agored i niwed. Ond buaswn yn dadlau bod angen bwrw ymlaen â’r gwaith hwn gyda llawer mwy o frys mewn ffordd wirioneddol drawsbynciol ar draws Llywodraeth Cymru. Mae angen cydnabod bod atgyfeirio at CAMHS arbenigol i lawer o’n pobl ifanc yn golygu ein bod eisoes wedi methu eu cynorthwyo pan fyddant ei angen fwyaf.

Mae cyflwyno a sefydlu gwydnwch emosiynol yn gynnar ym mywyd plentyn, drwy’r ysgol, mewn lleoliadau gwaith ieuenctid, a chlybiau ar ôl ysgol yn hanfodol i atal problemau i’n pobl ifanc yn y dyfodol. Mae angen i ni wireddu ymyrraeth gynnar yng Nghymru. Gallai rhaglenni iechyd emosiynol mewn ysgolion, ymagwedd iechyd cyhoeddus sefydledig, a chynnwys iechyd emosiynol a lles yn elfen orfodol yn y cwricwlwm, helpu i leihau’r baich a osodir ar ein gwasanaethau CAMHS sydd eisoes dan bwysau. Yn wir, mae teitl strategaeth CAMHS Llywodraeth Cymru yn 2001, ‘Busnes Pawb’ yn crisialu pwysigrwydd y mater hwn a’r ffaith na ellir ei ystyried fel mater i’r GIG yn unig. Yn wir, roedd strategaeth 2001 yn cynnwys pennod gyfan ar ysgolion, gan ddangos eu rôl bwysig. Mae’n rhywbeth sydd wedi cael ei gydnabod ers blynyddoedd lawer, ond mae hefyd yn amlwg fod llawer mwy o gynnydd i’w wneud ar hyn.

Yng Nghymru, mae gennym gyfle gwych, drwy adolygiad Donaldson o’r cwricwlwm, i annog ac ymgorffori dull gwydn a allai gyflwyno diwylliant newydd o newid a mynd i’r afael â’r stigma sydd ynghlwm wrth iechyd meddwl yn gynharach. Er bod argymhellion Donaldson yn cynnwys ymagwedd tuag at iechyd a lles, heb y cymorth iawn i athrawon ei gyflwyno ar lawr gwlad, yn syml iawn ni fydd yn digwydd.

Ar hyn o bryd, mae darparwyr hyfforddiant cychwynnol i athrawon yn hyblyg o ran y ffordd y maent yn cynllunio ac yn cyflwyno eu rhaglenni, heb unrhyw gyfraniad gan Lywodraeth Cymru ar gynnwys y cyrsiau, ac nid oes gwybodaeth ar gael yn gyhoeddus ynglŷn ag i ba raddau y mae darparwyr addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru yn cynnwys materion iechyd meddwl fel rhan o statws athro cymwysedig. O ganlyniad i’r argymhellion yn adroddiad Furlong, mae gennym gyfle i wella ansawdd cyrsiau hyfforddiant cychwynnol i athrawon a sicrhau eu bod yn ymwybodol ac wedi’u hyfforddi o’r cychwyn cyntaf. Yn wir, cyn yr etholiad diwethaf, dangosodd Llywodraeth Cymru bob arwydd ei bod wedi manteisio ar y cyfle a roddwyd i ni, drwy roi Furlong a Donaldson at ei gilydd a chreu llwybr gyrfa newydd i athrawon fel athrawon arweiniol. Roedd y rhain yn fath newydd o addysgwyr proffesiynol, wedi’u hyfforddi mewn cwnsela ac yn gyfarwydd â gwaith asiantaethau eraill, fel y gwasanaethau cymdeithasol, ac roeddent i weithredu fel eiriolwyr ar gyfer plant â phroblemau emosiynol ac fel unigolion i ddisgyblion a chydweithwyr proffesiynol fynd atynt fel ymateb cyntaf cyn i bethau ddatblygu i fod yn argyfwng neu’n anodd eu datrys. Yn allweddol, roedd yr athrawon arweiniol hyn hefyd i ddod yn arbenigwyr hyfforddedig ar gyfer cyflwyno gwell addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd gyda mwy o gysondeb yn ein hysgolion. Felly, rwy’n gofyn y cwestiwn heddiw: beth a ddaeth o’r polisi hwn?

Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â chyflawni ei hymrwymiad i atal plant a phobl ifanc rhag mynd at CAMHS yn y lle cyntaf, yna rhaid i’r mesurau ataliol hyn fod yn flaenoriaeth lwyr, a’u hyrwyddo ar draws Llywodraeth Cymru. Mae Samariaid Cymru yn credu’n gryf y dylid gwneud darpariaeth iechyd emosiynol yn orfodol yn y cwricwlwm newydd. Maent am weld rhaglenni iechyd emosiynol yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion fel ffurf ar hyrwyddo, atal ac ymyrryd yn gynnar, ac yn credu y bydd atgyfeiriadau at CAMHS yn parhau i gynyddu oni bai bod y mesurau ataliol hyn yn cael eu hymgorffori mewn lleoliadau addysgol.

Ceir rhai arferion gwych yn barod. Mae Samariaid Cymru yn cynnig y prosiect DYEG—datblygu ymwybyddiaeth emosiynol a gwrando—gydag adnoddau addysgu am ddim ar y we. Trwy eu cynlluniau peilot DYEG yn Aberdâr a Chaerdydd, mae wyth ysgol yn gweithredu’r rhaglen yn eu cwricwlwm ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Mae Samariaid Cymru wedi dweud bod athrawon sydd wedi cael yr hyfforddiant DYEG yn fwy hapus a hyderus i gyflwyno ymwybyddiaeth o iechyd emosiynol i’w disgyblion.

Mae Achub y Plant hefyd yn cyflwyno rhaglenni mewn ysgolion. Mae eu rhaglen Taith Gobaith, mewn partneriaeth â Place2Be, yn cael ei chyflwyno ar hyn o bryd i 10 o ysgolion yng Nghaerdydd. Mae’r rhaglen, sydd wedi cael ei hychwanegu at gyfeiriadur y Sefydliad Ymyrraeth Gynnar o ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth, yn cynnig strategaethau cadarnhaol i blant allu ymdopi â digwyddiadau trawmatig, helpu i feithrin eu gwydnwch naturiol, a chryfhau eu rhwydweithiau cymorth cymdeithasol.

Yn fy etholaeth fy hun, mae ysgol gynradd Penygarn yn defnyddio eu harian grant amddifadedd disgyblion i gyflogi therapydd chwarae ac maent wedi creu ystafell ddosbarth anogaeth arbennig ar gyfer plant sydd angen cymorth ychwanegol i ymdrin â phroblemau emosiynol. Mae Ysgol Gatholig Alban Sant, gan weithio mewn partneriaeth â’r ‘South Wales Argus’ a myfyrwyr adeiladu a phlymio Coleg Gwent wedi adnewyddu hen dŷ’r gofalwr ac yn ei droi’n adeilad noddfa i bobl ifanc. Yn yr un modd, yn fuan bydd staff o ysgol gynradd Garnteg yn mynd ar gwrs hyfforddiant i’w galluogi i addysgu ymwybyddiaeth ofalgar mewn ysgolion.

Ond wrth gwrs, nid cyfrifoldeb ysgolion yn unig yw cyflwyno’r dull hwn; mae ein gwasanaethau ieuenctid ar draws Cymru, fel y clywsom heddiw, yn darparu cymorth allweddol i blant a phobl ifanc ar ystod o faterion ac maent yn wasanaeth ataliol pwysig ar gyfer hybu iechyd meddwl pobl ifanc. Mae Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol yn mynnu ei bod yn hollbwysig fod eu model mynediad agored o ddarpariaeth ieuenctid yn cael ei gynnal, ei gefnogi a’i ddatblygu fel y gall pob person ifanc gael mynediad at wasanaethau sy’n gwella eu gwydnwch ac yn ymateb i’w hanghenion. Cytunaf yn llwyr â’r farn hon.

Felly, i gloi, mae yna lawer o arfer da’n bodoli o ran meithrin gwydnwch yn ein plant a’n pobl ifanc, ond nid oes un cyfanwaith cydlynol a chyson sy’n gweithredu yng Nghymru. Oni bai ein bod yn sicrhau newid sylweddol mewn ymyrraeth gynnar, byddwn yn parhau i weld y gwasanaeth CAMHS yn ymdrin â’r canlyniadau i’n plant a’n pobl ifanc. Yn allweddol, mae angen i ni adolygu’n feirniadol yr hyn y disgwyliwn gan ein hysgolion ar yr agenda hon ac arfogi’r system â chyfarwyddyd arbenigol ar gyfer pob athro, er mwyn iddynt gael hyder i gyflawni yn y maes hwn a sicrhau bod ein plant a’n pobl ifanc yn cael yr holl gymorth a’r gefnogaeth y maent yn ei haeddu. Diolch.