– Senedd Cymru am 6:09 pm ar 8 Chwefror 2017.
Rwy’n galw, felly, ar Lynne Neagle i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi—Lynne Neagle.
Diolch i chi, Lywydd, a hoffwn ddechrau drwy ddangos fideo byr, os gwelwch yn dda.
Diolch. Rwy’n gwybod bod rhai o’r Aelodau a fynychodd lansiad yr adroddiad ‘Cyflwr Iechyd Plant’ ar gyfer 2017 a drefnwyd gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, wedi gweld y fideo, ond roeddwn yn credu ei bod yn sicr yn werth ei dangos yn ehangach. Hoffwn ddiolch i Naomi Lea a sefydliad Fixers am ganiatáu i ni ddangos y ffilm heddiw, ffilm o’r enw ‘Spot the Signs’, ac mewn ffordd syml iawn ond effeithiol, mae’n annog pob un ohonom i ofyn i ni ein hunain: a fuasem yn adnabod yr arwyddion pe baem yn eu gweld?
Felly, croesawaf y cyfle heddiw i siarad am bwnc rwy’n teimlo’n angerddol iawn yn ei gylch ac un sy’n hanfodol bwysig i bob un ohonom, fel rhieni, gofalwyr ac addysgwyr—sut yr ydym yn meithrin gwydnwch emosiynol yn ein plant a phobl ifanc. Ac rwy’n falch iawn o roi munud o fy amser i Angela Burns heddiw.
Mae problemau iechyd meddwl yn effeithio ar oddeutu un o bob 10 o blant a phobl ifanc, gyda bron i hanner yr holl broblemau iechyd meddwl yn dechrau erbyn 14 oed. Fe ailadroddaf hynny: mae bron i hanner yr holl broblemau iechyd meddwl yn dechrau erbyn 14 oed Mae hwnnw’n ystadegyn a ddylai beri pryder i bob un ohonom. Mae rhwydweithio cymdeithasol bedair awr ar hugain y dydd, straen cynyddol arholiadau, a diwylliant sydd ag obsesiwn â’r corff yn ddim ond rhai enghreifftiau’n unig o’r modd y gall cymdeithas fodern effeithio’n negyddol ar iechyd meddwl a lles ein plant a’n pobl ifanc, ac yn dangos yr angen dybryd i fynd i’r afael â hyn.
Ar ryw adeg yn ystod ein bywydau, bydd llawer ohonom yn gorfod ymdopi ac ymdrin â phroblemau’n ymwneud â lles meddyliol gwael. I rai, gall ymdopi ddod yn naturiol, ond i eraill, efallai y bydd angen iddynt ddysgu neu gael eu dysgu sut i feithrin gwydnwch emosiynol. Felly, mae’n hynod o bwysig fod pobl ifanc yn cael eu dysgu sut i ddatblygu strategaethau ymdopi cadarnhaol a’u bod yn dysgu sut i ofalu am eu hiechyd emosiynol eu hunain.
Rydym ni fel cynrychiolwyr etholedig, yn anffodus, yn rhy gyfarwydd ag etholwyr ifanc sydd wedi cael eu hatgyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol ar gyfer plant ac oedolion, a bydd rhai ohonynt yn dal i aros yn rhy hir am asesiad a thriniaeth. Dywedodd y Gweinidog iechyd blaenorol fod iechyd meddwl plant yn fater i bawb, ac yn hynny, mae’n hollol iawn. Dywedodd wrth y pwyllgor plant blaenorol, wrth drafod yr aros hir am wasanaethau CAMHS mai pen CAMHS y gwasanaeth yw pen clinigol y gwasanaeth; nid oes bwriad, ac nid oedd bwriad erioed iddo fod yn ateb cyfan i bobl ifanc sy’n cael anawsterau wrth iddynt dyfu i fyny, pobl ifanc y mae angen mynd i’r afael â’u hanghenion lles meddyliol. Dywedodd ei fod bob amser yn pryderu bod tynnu person ifanc i mewn i wasanaethau iechyd meddwl arbenigol yn eu labeli mewn modd sy’n byw gyda hwy am amser hir iawn yn ystod eu bywydau ac nad ydym ar unrhyw ystyr ar bwynt lle nad oes cost yn gysylltiedig â label o’r fath o ran stigma ac effeithiau eraill ar fywydau pobl. Felly, dylem bob amser roi sylw i’r ffin honno er mwyn gwneud yn siŵr fod y bobl sydd angen gwasanaeth CAMHS yn ei gael a bod y bobl ifanc y gellir trin eu hanghenion yn well drwy’r gwasanaethau mwy cyffredinol yn cael yr help sydd ei angen arnynt yno. Felly, mae’r cymorth y gall pobl ifanc ei gael cyn CAMHS arbenigol yn gwbl allweddol.
Mae’r ymrwymiadau a’r flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gosod ar fynd i’r afael a datblygu darpariaeth iechyd meddwl fwy effeithiol ar gyfer plant a phobl ifanc drwy’r rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc i’w chroesawu. Gwn fy mod i, ynghyd ag Aelodau Cynulliad eraill, yn parhau i fonitro cynnydd y rhaglen yn ofalus er mwyn sicrhau ei bod yn darparu mynediad prydlon hanfodol i bob CAMHS arbenigol.
Ond mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys ffrydiau gwaith sydd i’w croesawu’n fawr i hyrwyddo gwydnwch cyffredinol a lles ac i hyrwyddo ymyrraeth gynnar a chymorth i blant a phobl ifanc sy’n agored i niwed. Ond buaswn yn dadlau bod angen bwrw ymlaen â’r gwaith hwn gyda llawer mwy o frys mewn ffordd wirioneddol drawsbynciol ar draws Llywodraeth Cymru. Mae angen cydnabod bod atgyfeirio at CAMHS arbenigol i lawer o’n pobl ifanc yn golygu ein bod eisoes wedi methu eu cynorthwyo pan fyddant ei angen fwyaf.
Mae cyflwyno a sefydlu gwydnwch emosiynol yn gynnar ym mywyd plentyn, drwy’r ysgol, mewn lleoliadau gwaith ieuenctid, a chlybiau ar ôl ysgol yn hanfodol i atal problemau i’n pobl ifanc yn y dyfodol. Mae angen i ni wireddu ymyrraeth gynnar yng Nghymru. Gallai rhaglenni iechyd emosiynol mewn ysgolion, ymagwedd iechyd cyhoeddus sefydledig, a chynnwys iechyd emosiynol a lles yn elfen orfodol yn y cwricwlwm, helpu i leihau’r baich a osodir ar ein gwasanaethau CAMHS sydd eisoes dan bwysau. Yn wir, mae teitl strategaeth CAMHS Llywodraeth Cymru yn 2001, ‘Busnes Pawb’ yn crisialu pwysigrwydd y mater hwn a’r ffaith na ellir ei ystyried fel mater i’r GIG yn unig. Yn wir, roedd strategaeth 2001 yn cynnwys pennod gyfan ar ysgolion, gan ddangos eu rôl bwysig. Mae’n rhywbeth sydd wedi cael ei gydnabod ers blynyddoedd lawer, ond mae hefyd yn amlwg fod llawer mwy o gynnydd i’w wneud ar hyn.
Yng Nghymru, mae gennym gyfle gwych, drwy adolygiad Donaldson o’r cwricwlwm, i annog ac ymgorffori dull gwydn a allai gyflwyno diwylliant newydd o newid a mynd i’r afael â’r stigma sydd ynghlwm wrth iechyd meddwl yn gynharach. Er bod argymhellion Donaldson yn cynnwys ymagwedd tuag at iechyd a lles, heb y cymorth iawn i athrawon ei gyflwyno ar lawr gwlad, yn syml iawn ni fydd yn digwydd.
Ar hyn o bryd, mae darparwyr hyfforddiant cychwynnol i athrawon yn hyblyg o ran y ffordd y maent yn cynllunio ac yn cyflwyno eu rhaglenni, heb unrhyw gyfraniad gan Lywodraeth Cymru ar gynnwys y cyrsiau, ac nid oes gwybodaeth ar gael yn gyhoeddus ynglŷn ag i ba raddau y mae darparwyr addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru yn cynnwys materion iechyd meddwl fel rhan o statws athro cymwysedig. O ganlyniad i’r argymhellion yn adroddiad Furlong, mae gennym gyfle i wella ansawdd cyrsiau hyfforddiant cychwynnol i athrawon a sicrhau eu bod yn ymwybodol ac wedi’u hyfforddi o’r cychwyn cyntaf. Yn wir, cyn yr etholiad diwethaf, dangosodd Llywodraeth Cymru bob arwydd ei bod wedi manteisio ar y cyfle a roddwyd i ni, drwy roi Furlong a Donaldson at ei gilydd a chreu llwybr gyrfa newydd i athrawon fel athrawon arweiniol. Roedd y rhain yn fath newydd o addysgwyr proffesiynol, wedi’u hyfforddi mewn cwnsela ac yn gyfarwydd â gwaith asiantaethau eraill, fel y gwasanaethau cymdeithasol, ac roeddent i weithredu fel eiriolwyr ar gyfer plant â phroblemau emosiynol ac fel unigolion i ddisgyblion a chydweithwyr proffesiynol fynd atynt fel ymateb cyntaf cyn i bethau ddatblygu i fod yn argyfwng neu’n anodd eu datrys. Yn allweddol, roedd yr athrawon arweiniol hyn hefyd i ddod yn arbenigwyr hyfforddedig ar gyfer cyflwyno gwell addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd gyda mwy o gysondeb yn ein hysgolion. Felly, rwy’n gofyn y cwestiwn heddiw: beth a ddaeth o’r polisi hwn?
Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â chyflawni ei hymrwymiad i atal plant a phobl ifanc rhag mynd at CAMHS yn y lle cyntaf, yna rhaid i’r mesurau ataliol hyn fod yn flaenoriaeth lwyr, a’u hyrwyddo ar draws Llywodraeth Cymru. Mae Samariaid Cymru yn credu’n gryf y dylid gwneud darpariaeth iechyd emosiynol yn orfodol yn y cwricwlwm newydd. Maent am weld rhaglenni iechyd emosiynol yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion fel ffurf ar hyrwyddo, atal ac ymyrryd yn gynnar, ac yn credu y bydd atgyfeiriadau at CAMHS yn parhau i gynyddu oni bai bod y mesurau ataliol hyn yn cael eu hymgorffori mewn lleoliadau addysgol.
Ceir rhai arferion gwych yn barod. Mae Samariaid Cymru yn cynnig y prosiect DYEG—datblygu ymwybyddiaeth emosiynol a gwrando—gydag adnoddau addysgu am ddim ar y we. Trwy eu cynlluniau peilot DYEG yn Aberdâr a Chaerdydd, mae wyth ysgol yn gweithredu’r rhaglen yn eu cwricwlwm ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Mae Samariaid Cymru wedi dweud bod athrawon sydd wedi cael yr hyfforddiant DYEG yn fwy hapus a hyderus i gyflwyno ymwybyddiaeth o iechyd emosiynol i’w disgyblion.
Mae Achub y Plant hefyd yn cyflwyno rhaglenni mewn ysgolion. Mae eu rhaglen Taith Gobaith, mewn partneriaeth â Place2Be, yn cael ei chyflwyno ar hyn o bryd i 10 o ysgolion yng Nghaerdydd. Mae’r rhaglen, sydd wedi cael ei hychwanegu at gyfeiriadur y Sefydliad Ymyrraeth Gynnar o ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth, yn cynnig strategaethau cadarnhaol i blant allu ymdopi â digwyddiadau trawmatig, helpu i feithrin eu gwydnwch naturiol, a chryfhau eu rhwydweithiau cymorth cymdeithasol.
Yn fy etholaeth fy hun, mae ysgol gynradd Penygarn yn defnyddio eu harian grant amddifadedd disgyblion i gyflogi therapydd chwarae ac maent wedi creu ystafell ddosbarth anogaeth arbennig ar gyfer plant sydd angen cymorth ychwanegol i ymdrin â phroblemau emosiynol. Mae Ysgol Gatholig Alban Sant, gan weithio mewn partneriaeth â’r ‘South Wales Argus’ a myfyrwyr adeiladu a phlymio Coleg Gwent wedi adnewyddu hen dŷ’r gofalwr ac yn ei droi’n adeilad noddfa i bobl ifanc. Yn yr un modd, yn fuan bydd staff o ysgol gynradd Garnteg yn mynd ar gwrs hyfforddiant i’w galluogi i addysgu ymwybyddiaeth ofalgar mewn ysgolion.
Ond wrth gwrs, nid cyfrifoldeb ysgolion yn unig yw cyflwyno’r dull hwn; mae ein gwasanaethau ieuenctid ar draws Cymru, fel y clywsom heddiw, yn darparu cymorth allweddol i blant a phobl ifanc ar ystod o faterion ac maent yn wasanaeth ataliol pwysig ar gyfer hybu iechyd meddwl pobl ifanc. Mae Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol yn mynnu ei bod yn hollbwysig fod eu model mynediad agored o ddarpariaeth ieuenctid yn cael ei gynnal, ei gefnogi a’i ddatblygu fel y gall pob person ifanc gael mynediad at wasanaethau sy’n gwella eu gwydnwch ac yn ymateb i’w hanghenion. Cytunaf yn llwyr â’r farn hon.
Felly, i gloi, mae yna lawer o arfer da’n bodoli o ran meithrin gwydnwch yn ein plant a’n pobl ifanc, ond nid oes un cyfanwaith cydlynol a chyson sy’n gweithredu yng Nghymru. Oni bai ein bod yn sicrhau newid sylweddol mewn ymyrraeth gynnar, byddwn yn parhau i weld y gwasanaeth CAMHS yn ymdrin â’r canlyniadau i’n plant a’n pobl ifanc. Yn allweddol, mae angen i ni adolygu’n feirniadol yr hyn y disgwyliwn gan ein hysgolion ar yr agenda hon ac arfogi’r system â chyfarwyddyd arbenigol ar gyfer pob athro, er mwyn iddynt gael hyder i gyflawni yn y maes hwn a sicrhau bod ein plant a’n pobl ifanc yn cael yr holl gymorth a’r gefnogaeth y maent yn ei haeddu. Diolch.
Lynne, yn gyntaf oll, hoffwn dalu teyrnged enfawr i chi gan eich bod yn gymaint o eiriolwr dros blant a phobl ifanc, ac am fynd i’r afael â’r problemau sydd gennym gyda’r gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed. Oherwydd rwy’n cytuno â phopeth yr ydych wedi’i ddweud y prynhawn yma: credaf ei bod yn hollbwysig ein bod yn galluogi ein plant i ddod yn fwy gwydn yn emosiynol ac yn seicolegol. Rydym yn byw mewn byd creulon iawn ac mae’n mynd yn anos bob dydd. Mae gan rai plant deuluoedd anodd, bywydau sy’n hynod o gaotig y mae’n rhaid iddynt ymdopi â hwy, ac mae plant eraill bob amser yn agored i beth sydd gan y cyfryngau i’w ddweud, i ddiwylliant enwogrwydd—’Rydych yn rhy denau, rydych yn rhy dew, rydych yn rhy dal, rydych yn rhy fyr’—i bopeth arall. Bwlio wedyn, a gall hwnnw fod yn rhemp. Rydym wedi clywed cymaint o weithiau am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a’r niwed y gallant eu hachosi i rywun yn y tymor hir.
Felly, rwy’n meddwl y byddai gwneud iechyd emosiynol yn rhan briodol o’r cwricwlwm, a defnyddio Donaldson i geisio ysgogi’r newid hwn, yn gwbl allweddol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ofyn i chi ddweud ychydig wrthym ynglŷn â pha drafodaethau yr ydych wedi’u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i symud hyn ymlaen.
Rwyf am ychwanegu nad wyf yn siarad fel Aelod Cynulliad yn unig, ond hefyd fel mam, ac fel llawer ohonom sydd â phlant ifanc yn ein bywydau sy’n annwyl iawn i ni, mae pawb ohonom wedi bod drwy’r adegau pan fyddwn wedi ymdrin â phlant sy’n dod adref o’r ysgol ar ôl cael diwrnod ofnadwy, lle y byddant wedi cael eu bwlio’n ddidrugaredd, neu’n syml, eu bod yn methu deall beth sy’n gwneud iddynt deimlo nad yw pethau fel y dylent fod. Ac roeddwn yn meddwl bod y ffilm yn portreadu hynny i’r dim—yr unigrwydd a’r arwahanrwydd y gall plant ifanc ei brofi. Felly, buasai unrhyw beth y gall y Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod ein plant yn ffit i wynebu eu hoes fel oedolion i’w groesawu’n fawr iawn.
Fy marn bersonol fy hun: mae meithrin unigolyn sy’n wydn yn emosiynol ac yn gadarn yn seicolegol yn bwysicach nag addysg arferol syml mewn gwirionedd. Yn y byd addysg, mae’n rhaid i ni weld y tu hwnt i’r syniad ei fod yn ymwneud â dysgu, â gwersi, ag arholiadau: os gallwn greu pobl ifanc sydd, ar ddiwedd yr ysgol gynradd, ar ddiwedd yr ysgol uwchradd, ar ddiwedd addysg bellach, ac ar ddiwedd addysg uwch, yn gallu ymdopi â’r byd hwn, yna byddwn wedi llwyddo, oherwydd gallant wneud y gweddill o’r dysgu ar gam arall.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ymateb i’r ddadl—Carl Sargeant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Lynne Neagle am arwain y ddadl hon heddiw? Mae’n bwnc sy’n agos at fy nghalon hefyd, ac rwy’n ddiolchgar iawn am eich cyfraniad pwerus iawn i’r Siambr heno.
Yn gyntaf oll, hoffwn gydnabod gwaith Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd. Mae’r pwyllgor eisoes wedi cyflawni gwaith ac ymgynghoriad pwysig ar y 1,000 diwrnod cyntaf ym mywyd plentyn, ac edrychaf ymlaen at weld adroddiad ac argymhellion y pwyllgor. Bydd yr Aelodau’n gwybod fy mod yn benderfynol o wneud popeth yn fy ngallu i gynyddu cryfder cymunedau, fel y gallant gael eu harfogi’n well, fel y dywed Angela Burns, i ymdrin â’r heriau y maent yn eu hwynebu.
Gwrandewais yn ofalus ar y cyfraniad. Nid wyf yn dilyn y sgript yn fanwl ar hyn o bryd, oherwydd gwrandewais yn astud ar yr hyn a ddywedoch, ac rwy’n cytuno’n llwyr. Ac af ymlaen i egluro beth sydd yn fy meddwl, ond credaf eich bod wedi cyflwyno rhan o’r jig-so, rhan o’r ateb i’r dull crwn sydd angen i ni ei feithrin mewn perthynas â gwydnwch unigolyn. Rwy’n meddwl bod yr elfen addysgol yn hynny yn un bwysig, ac rydych yn gwthio yn erbyn drws agored gyda mi o ran ein gallu i wneud hynny, oherwydd, tra bo plant yn wynebu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, er bod yr effaith uniongyrchol yn allweddol i bob plentyn, mae rhai yn fwy gwydn nag eraill ac yn gallu ymdopi’n well. Gallwn fynd i’r gofod hwnnw, ac rwy’n gwbl argyhoeddedig, os nad ydym yn ymyrryd yn gynnar ac yn atal, bydd ein gwasanaeth iechyd yn methu—bydd ein gwasanaethau iechyd meddwl yn methu yn y dyfodol. Mae’n rhaid i ni fynd i’r gofod o wneud rhywbeth gwahanol. Ond mae gwleidyddiaeth hyn hyd yn oed yn fwy anhygoel o anodd, oherwydd bod y pethau y soniodd Angela amdanynt, disgwyliadau unigolion—y pum lefel O neu’r pum TGAU, neu’r lefel cyrhaeddiad wrth fynd ar drywydd targedau—maent oll yn anghyraeddadwy os nad oes gennym berson ifanc gwydn. Felly, gallwch fod eisiau’r holl ganlyniadau pum TGAU a ddymunwch, ond os oes gennych unigolyn sydd wedi torri, ni fyddant byth yn cael llwyddiant academaidd oni bai eich bod yn mynd i’r afael â hynny.
Felly, y newyddion da yw bod modd datblygu a dysgu sgiliau gwydn, ac mae oedran cynnar yn ffactor pwysig, ac rwy’n derbyn y cyfraniad y mae’r Aelodau wedi’u gwneud heno.
Gall meithrin gwydnwch—y gallu i addasu i adfyd, trawma neu ffynonellau arwyddocaol o straen—helpu ein plant a’n pobl ifanc i reoli teimladau o bryder ac ansicrwydd ac yn ei dro, bydd hyn yn eu helpu i ffynnu, fel y mae Angela yn ei ddweud am gyfrannu fel aelodau o’r gymuned wrth iddynt gyrraedd eu potensial llawn, ond mae’r risg yn enfawr os na chawn yr ymyrraeth hon yn iawn.
Mae’r cyfrifoldeb ar bob un ohonom. Mae ar bob un ohonom. A dyna pam y dywedais mai rhan o’r ateb yn unig i ddatrys y mater hwn yw’r effaith jig-so o’r hyn yr ydych yn ei awgrymu yma. Ac mae meithrin amgylchedd mewn cymdeithas lle nad yw ein pobl ifanc yn cael eu dal yn ôl gan amgylchiadau neu le, ond yn cael eu cefnogi i ddod yn wydn, yn rhywbeth y dylem i gyd ymdrechu i’w wneud, gan gynnwys holl adrannau’r Llywodraeth, y sector cyhoeddus i gyd, ond yn bwysicach, pob un ohonom ni hefyd. Mae llawer ohonoch yn gwybod am y ffocws y bûm yn ei roi ar y blynyddoedd cynnar, a fy mhenderfyniad llwyr i roi’r cychwyn gorau i blant mewn bywyd. Mae hynny ynddo’i hun yn achosi gwrthdaro ymhlith cyd-Aelodau am fy mod wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn cael y fargen orau ar gyfer ein pobl ifanc; dyma’r buddsoddiad gorau y gallem ei wneud byth. Os cawn hyn yn iawn yn awr, mae’n arbed arian i ni; dyma sy’n iawn i’w wneud yn gyllidol, ond yn foesol hefyd. Mae dwy fuddugoliaeth i’w cael yma os gallwn wreiddio hyn. Ceir cytundeb cyffredinol fod profiadau plentyndod cynnar yn hanfodol bwysig i ddatblygiad hirdymor plant a’u cyflawniadau yn ddiweddarach mewn bywyd. Ac mae tystiolaeth yn dweud wrthym fod profiadau bywyd cynnar yn effeithio ar ddatblygiad plentyn a dylanwadu ar ei ymddygiad yn ystod ei arddegau a phan ddaw’n oedolyn. Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn creu canlyniadau niweidiol hirdymor, ac rwy’n benderfynol o atal a lleddfu effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ym mhob dim y gallaf ei wneud. Mae ffocws fy adran gyfan ar gyflawni hyn—o dai i ddiogelwch cymunedol, mae’n rhaid i ni fynd at wraidd hyn a gweld ei fod yn galw am fwy na geiriau cynnes. Mae angen cyflawni.
Dyna pam y mae rhaglenni fel Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf yn bwysig iawn i ni. Mae buddsoddiad o £77 miliwn tuag at Dechrau’n Deg, a £42 miliwn tuag at Teuluoedd yn Gyntaf yn bethau yr ydym yn mynd â hwy i mewn i’n cymunedau ac at wraidd y sefyllfaoedd anodd iawn y cawn ein hunain ynddynt—y cyflwyniad sy’n ymwneud â pharthau plant, cyflwyno hynny yng Nghymru, a chyflwyno ffocws profiadau niweidiol yn ystod plentyndod sy’n cael ei ddatblygu gyda CymruWellWales yn awr, gan wneud yn siŵr fod y pethau y sonioch amdanynt, Lynne, am wneud yn siŵr ein bod yn gallu mynd y tu hwnt i’r agwedd addysgol ar hyn, ond ein bod, ym mhob dim a wnawn, yn ystyried gwydnwch unigolyn—yn hytrach nag ymagwedd seiliedig ar le, dull sy’n seiliedig ar yr unigolyn, a sut y mae angen i ni eu cefnogi. Mae hyn yn wir am bob plentyn drwy system ac yn benodol, rwy’n bryderus iawn am ein plant sy’n derbyn gofal—y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau sy’n cael cam gennym mewn gwirionedd. Rwy’n rhiant, fel llawer yn yr ystafell hon, ac rwy’n teimlo embaras weithiau am yr amgylchiadau y rhown ein pobl ifanc ynddynt—bregusrwydd yr her honno. Fe wnes gynhadledd/seminar/hawl i holi gyda David Melding yr wythnos o’r blaen, pan wnaethom rewi i farwolaeth yn y Senedd, ond mewn gwirionedd roedd yn waith gwirioneddol effeithiol, siarad a gwrando—yn bwysicach—ar bobl ifanc sydd wedi cael profiadau real o’r system yr ydym wedi llywyddu drosti, ac rydym wedi gwneud cam â phobl ifanc. Mae’n rhywbeth na allwn fforddio ei wneud yn y dyfodol.
Lynne, mae’r gwaith a wnaethoch yn dod â hyn i’r Siambr yn bwysig, ond yn bwysicach i mi fel arweinydd yn y sector cyhoeddus, mae’n rhaid i mi wneud yn siŵr fod fy holl ymyriadau a holl ymyriadau fy nghyd-Aelodau yn canolbwyntio ar y broses atal ac ymyrraeth gynnar i wneud yn siŵr ein bod yn cael hyn yn iawn yn y dyfodol. Ac rwy’n ddiolchgar am y—
Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn wir. Gwnaf, wrth gwrs.
Roeddwn yn meddwl, gan siarad fel mam am eiliad, tybed a wnewch chi ystyried, neu a ydych eisoes yn ystyried, canllawiau neu gyngor i rieni ynglŷn â sut i’w helpu. Oherwydd, wrth gwrs, mae ysgolion yn un hanner o’r hafaliad, ond maent yn treulio 50 y cant o’u hamser yn rhywle arall. Er bod gan lawer ohonynt fywydau caotig, mae yna lawer iawn lle y gallwch gael y teulu mwyaf cadarn, ond mae’n dal i fod un blodyn bach y gellir sathru arno. Er mwyn i rieni ddeall sut y gallant helpu eu plant i anwybyddu’r hysbysebion hynny, i beidio â dilyn y diwylliant enwogrwydd ac i beidio â hunan-niweidio am nad ydynt yn ddigon tenau, ac yn y blaen.
Mae’r Aelod yn hollol iawn. Roeddwn yn mynd i ddod at hynny, yn yr ystyr mai’r dylanwad mwyaf yn ystod y blynyddoedd cynnar o fywyd plentyn yw’r rhianta, a’r broses o ran yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi amgylchedd o safon i gynorthwyo rhieni. Rydym am wneud hynny. Rydym yn cefnogi hynny drwy ein rhaglen ‘Magu Plant. Rhowch amser iddo’, ond mae mwy y gallwn ei wneud yn y gofod hwnnw. Rydym wedi ymrwymo, ar sail drawsbleidiol mewn llawer o achosion, i ddeddfu i ddiddymu’r amddiffyniad o gosb resymol—agwedd arall ar rianta o safon—a rhoi’r offer i bobl gynorthwyo pobl ifanc wrth iddynt dyfu i fyny.
Mae cydlynu’r gwaith hanfodol hwn yn mynd i fod yn bwysig. Mae’r fframwaith rhianta yn rhywbeth a ddarparwn fel dull strategol, cydgysylltiedig. Nid wyf yn hoffi strategaethau am eu bod fel arfer yn troi’n ddogfennau llychlyd ar silff. Mae’n bwysig iawn ein bod yn gweld cyflawniad. Felly, fy her i’r sectorau, i’r Llywodraeth, yw gofyn, ‘Gyda’r strategaeth hon, a ydym yn cyflawni yn awr?’ Gadewch i ni brofi’r system. Nid yw’n achos o, ‘Ydym, rydym yn ticio’r blychau yma.’ Beth yw’r canlyniadau go iawn? Beth yw’r canlyniadau gwirioneddol i’n pobl ifanc? Rydym yn gwybod bod CAMHS yn cael eu llesteirio gan yr heriau y maent yn eu hwynebu o ran y niferoedd.
A dweud y gwir, rwy’n cytuno â chi. Pan fyddwn yn cyrraedd cam CAMHS, rydym ar ddiwedd y broses honno. Dylem fod yn llawer cynharach. Bydd y pethau yr ydym yn eu gwneud heddiw yn cael effaith yfory. Felly, mae symud o’r gwaith bob dydd o reoli system i ymyrraeth yn rhywbeth rwy’n gwbl angerddol yn ei gylch a gwn fod fy nghyd-Aelodau hefyd. Rwyf am barhau â’r drafodaeth gyda Kirsty Williams mewn perthynas â’r awgrymiadau penodol iawn y soniwch amdanynt mewn perthynas â Donaldson a chanlyniadau’r Samariaid.
O ran y mater ehangach, fel y dywedais am y darnau jig-so yn dod at ei gilydd, yr hyn sy’n rhaid i ni ei wneud yn awr yw dod â’r darnau jig-so hynny at ei gilydd a rhoi llun arno, fel ein bod yn deall beth yw ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Mae fy ymrwymiad i gymunedau cryf yn ymagwedd ddwybig, a byddaf wedi dweud hyn yn y Siambr o’r blaen am adfywio economaidd a rhoi swyddi, sgiliau a chyfleoedd i deuluoedd a phobl ifanc i symud i raglen gyfalaf lle y byddant yn teimlo’n wydn ac yn gryf, ond adeiladu hefyd ar agwedd emosiynol profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a lles yn y gymuned ac unigolion hefyd. Bydd y ddau gyda’i gilydd, rwy’n meddwl, yn effeithio’n ddramatig ar les, ond hefyd effeithiau ein cymunedau ar dlodi a datblygu hefyd.
Felly, rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle. Rwyf wedi gwneud nifer o ddadleuon byr ac mae hon wedi bod yn un sydd wedi bod yn effeithiol iawn o ran gwneud i mi feddwl am y swydd rwy’n ei gwneud, a’r swyddi y mae pawb ohonom yn eu gwneud, gobeithio. Mae’r cyfrifoldeb o gefnogi ac ymdrin â phobl ifanc yn un i bob un ohonom. Byddaf yn parhau i weithio yn y modd hwnnw ac edrychaf ymlaen at weithio’n drawsbleidiol, yn enwedig gyda chi fel Cadeirydd y pwyllgor, i wneud yn siŵr ein bod yn gallu parhau, gobeithio, i fynd i’r afael â’r materion sy’n effeithio ar ein pobl ifanc yn y dyfodol. Diolch.
Diolch yn fawr iawn a dyna ddiwedd y trafodion am heddiw. Diolch.