Part of the debate – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 8 Chwefror 2017.
Nid oeddwn yn mynd i ddilyn hynny, mae’n rhaid i mi ei ddweud, ond fel rhywun sydd yn pregethu ar y Sul mewn capeli anghydffurfiol, roeddwn i hefyd yn mynd i dalu teyrnged i Williams Williams Pantycelyn o Lanymddyfri, sir Gaerfyrddin. Un o’n prif emynwyr ni, ganed ef 300 mlynedd yn ôl i ddydd Sadwrn yma sydd yn dod. Un o arweinyddion y diwygiad Methodistaidd yng Nghymru, ysgrifennodd tua 820 o emynau Cymraeg, gan yr oedd y mwyafrif helaeth o’r boblogaeth ar y pryd yn uniaith Gymraeg, a rhyw 120 o emynau Saesneg: ‘Bread of Heaven’ neu ‘Cwm Rhondda’, yr un mwyaf adnabyddus. Ac, wrth gwrs, mi fydd hwnnw’n cael ei floeddio allan yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn yma.
Erys toreth o farddoniaeth fendigedig yn ei emynau Cymraeg, fel,
‘Iesu, Iesu, 'rwyt ti'n ddigon, / 'Rwyt ti'n llawer mwy na'r byd’.
Rydym i gyd wedi dysgu honno yn ein hysgolion Sul. Ac un arall:
‘Pererin wyf mewn anial dir,/ Yn crwydro yma a thraw’.
A’r geiriau bendigedig, pan rydych yn poeni am rywbeth neu’n teimlo ychydig bach yn isel:
‘Mi dafla' 'maich oddi ar fy ngwar / Wrth deimlo dwyfol loes; / Euogrwydd fel mynyddoedd byd / Dry'n ganu wrth dy groes’.
Felly, y Sadwrn yma, tra byddan nhw’n bloeddio ‘Hen Wlad fy Nhadau’, ‘Calon Lân’ ac, ie, ‘Bread of Heaven’, wrth yrru ein harwyr rygbi ymlaen i fuddugoliaeth haeddiannol dros ryw bobl dros glawdd Offa, cofiwch am ben-blwydd William Williams Pantycelyn.