– Senedd Cymru am 2:31 pm ar 8 Chwefror 2017.
Ac felly yr eitem ganlynol yw’r datganiadau 90 eiliad. Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Y dydd Sadwrn hwn, 11 Chwefror, fydd tri-chanmlwyddiant genedigaeth y mwyaf o’r emynwyr Cymraeg, William Williams Pantycelyn. Ac mae’n addas fod ei ben-blwydd ar yr un diwrnod ag y bydd Cymru yn chwarae Lloegr yng nghrochan Stadiwm y Mileniwm, oherwydd, yn ystod y gêm chwe gwlad honno, nid oes amheuaeth o gwbl y bydd y cefnogwyr Cymreig yn canu ei waith enwocaf, mae’n debyg, ‘Arglwydd, arwain trwy’r anialwch’, gydag afiaith.
Roedd William Williams yn fwy nag emynydd enwocaf Cymru. Roedd hefyd yn un o’r ffigurau crefyddol a llenyddol mwyaf a gynhyrchodd y wlad hon erioed. Gyda Daniel Rowland a Howell Harris, Williams oedd un o’r ffigurau blaenllaw yng ngwawr diwygiad Methodistaidd Cymru, a ddaeth i ddominyddu meddwl ac agweddau crefyddol Cymru am lawer o’r ddeunawfed ganrif.
Ganed Williams yn 1717, ac yn aml fe’i gelwir yn syml yn ‘Pantycelyn’, enw fferm y teulu y bu’n byw arni am y rhan fwyaf o’i fywyd fel oedolyn. Roedd ei deulu yn anghydffurfwyr, a chafodd ei addysg yn lleol, ac yna mewn academi anghydffurfiol ger Talgarth. Ei fwriad oedd bod yn feddyg, ond ar ôl clywed Howell Harris yn pregethu ym mynwent Talgarth ym 1737, cafodd droedigaeth sydyn a syrthio mewn cariad â’i waredwr newydd, Iesu Grist. Fe’i taniwyd ag argyhoeddiad crefyddol.
Er gwaethaf ei fagwraeth anghydffurfiol, teimlai Williams ei fod yn cael ei alw i offeiriadaeth yr Eglwys Anglicanaidd sefydledig, ac yn 1740, fe’i penodwyd yn gurad i Theophilus Evans, gweinidog a oedd yn gyfrifol am nifer o blwyfi gwledig yng Nghymru. Ond gwrthodwyd ordeinio Williams yn offeiriad oherwydd ei dueddiadau Methodistaidd.
Roedd yn bregethwr mawr, ac yn drefnydd mawr y traddodiad Methodistiaid Calfinaidd Cymreig. Felly, pan fydd cefnogwyr rygbi Cymru yn canu ‘Cwm Rhondda’ y dydd Sadwrn hwn, byddant yn talu teyrnged i ddyn hynod a diddorol.
Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Abertawe. Yn gyntaf, rhaid i mi ddatgan buddiant fel aelod o Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Abertawe. Yn anffodus, ym Mhrydain, mae gan glybiau pêl-droed proffesiynol—yn enwedig ar y lefel uchaf—sylfaen fawr iawn o gefnogwyr lleol, gydag un neu fwy o unigolion yn unig yn berchen ar y clwb, yn aml o dramor. Rwy’n gwybod y byddai cefnogwyr Dinas Caerdydd yn gyfarwydd â’r sefyllfa honno.
Mae Dinas Abertawe yn wahanol, oherwydd er bod gan berchennog o dramor dros 50 y cant o’r cyfranddaliadau, mae ymddiriedolaeth y cefnogwyr yn berchen ar dros 20 y cant o’r clwb. Mae gan ymddiriedolaeth y cefnogwyr un aelod ar brif fwrdd y clwb, sy’n gyfle i farn cefnogwyr gael ei lleisio yn ystafell fwrdd y clwb. Mae gan ymddiriedolaeth y cefnogwyr gysylltiad uniongyrchol â chefnogwyr, ac mae’n ein cynrychioli.
Gyda’r cefnogwyr wedi’u cynrychioli ar y prif fwrdd, mae Dinas Abertawe wedi osgoi’r dadleuon ynglŷn â lliw’r cit, enw’r tîm, bathodyn y clwb a phris tocynnau a ddaeth i ran clybiau eraill. Rwy’n credu bod cyfranogiad uniongyrchol cefnogwyr yn hanfodol i sicrhau bod cefnogwyr pêl-droed a’r perchnogion yn parhau i weithio gyda’i gilydd. Mae clwb yn yr Uwch Gynghrair, sy’n eiddo i’r cefnogwyr yn rhannol, yn unigryw cyn belled ag y gwn i. Ond mae cael cynrychiolydd cefnogwyr ar y prif fwrdd yn unigryw a hefyd yn rhywbeth y mae cefnogwyr clybiau eraill yn dyheu amdano.
Mae rhannu perchnogaeth fel hyn yn deillio o’r dyddiau tywyll pan oedd Dinas Abertawe bron â mynd allan o’r gynghrair pêl-droed. Mae llwyddiant ymddiriedolaeth y cefnogwyr i’w briodoli i raddau helaeth i waith caled ac ymroddiad ei swyddogion a’r rheini sydd wedi gwasanaethu ar fwrdd y clwb pêl-droed. Mae tîm sy’n eiddo i’w gefnogwyr yn rhannol, sy’n chwarae yn yr Uwch Gynghrair, yn llwyddiant enfawr—y gobeithiaf y bydd yn parhau i’r tymor nesaf—ac yn rhywbeth y gobeithiaf y daw’n fwy cyffredin yn y dyfodol ymhlith clybiau eraill.
Ar 6 Chwefror 1952, bu farw Brenin Siôr VI. Dychwelodd y Dywysoges Elizabeth, y nesaf i etifeddu’r orsedd, adref, gan gamu oddi ar yr awyren fel ein brenhines. Roedd hynny 65 mlynedd yn ôl i’r wythnos hon, ac nid oes diwrnod wedi mynd heibio pan nad yw ein brenhines wedi rhoi ein gwlad a’i phobl yn gyntaf. Ei theyrnasiad hi yw’r hiraf a’r gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyrraedd Jiwbilî Saffir—mam, nain a hen-nain i deulu, gyda llawer ohonynt wedi gwasanaethu ein gwlad yn ddewr yn ystod adegau o wrthdaro. Mae’n deyrnasiad anhygoel sydd wedi ei gweld yn penodi 13 o Brif Weinidogion, o Winston Churchill i Margaret Thatcher, ac wrth gwrs, y Gwir Anrhydeddus Theresa May AS. Mae hi wedi ymgymryd ag ymweliadau gwladol â 116 o wledydd, gan gynnwys y rhai ar draws y Gymanwlad, gyda steil, graslonrwydd ac urddas. Hi yw noddwr dros 500 o elusennau, gan godi dros £1.4 biliwn. Hi yw Llywodraethwr Goruchaf Eglwys Loegr, ac fe’i cerir drwy’r byd yn enwedig yma yn y Deyrnas Unedig, a chan bob cenhedlaeth. Llongyfarchiadau, Ma’am, a Duw gadwo’r Frenhines.
Nid oeddwn yn mynd i ddilyn hynny, mae’n rhaid i mi ei ddweud, ond fel rhywun sydd yn pregethu ar y Sul mewn capeli anghydffurfiol, roeddwn i hefyd yn mynd i dalu teyrnged i Williams Williams Pantycelyn o Lanymddyfri, sir Gaerfyrddin. Un o’n prif emynwyr ni, ganed ef 300 mlynedd yn ôl i ddydd Sadwrn yma sydd yn dod. Un o arweinyddion y diwygiad Methodistaidd yng Nghymru, ysgrifennodd tua 820 o emynau Cymraeg, gan yr oedd y mwyafrif helaeth o’r boblogaeth ar y pryd yn uniaith Gymraeg, a rhyw 120 o emynau Saesneg: ‘Bread of Heaven’ neu ‘Cwm Rhondda’, yr un mwyaf adnabyddus. Ac, wrth gwrs, mi fydd hwnnw’n cael ei floeddio allan yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn yma.
Erys toreth o farddoniaeth fendigedig yn ei emynau Cymraeg, fel,
‘Iesu, Iesu, 'rwyt ti'n ddigon, / 'Rwyt ti'n llawer mwy na'r byd’.
Rydym i gyd wedi dysgu honno yn ein hysgolion Sul. Ac un arall:
‘Pererin wyf mewn anial dir,/ Yn crwydro yma a thraw’.
A’r geiriau bendigedig, pan rydych yn poeni am rywbeth neu’n teimlo ychydig bach yn isel:
‘Mi dafla' 'maich oddi ar fy ngwar / Wrth deimlo dwyfol loes; / Euogrwydd fel mynyddoedd byd / Dry'n ganu wrth dy groes’.
Felly, y Sadwrn yma, tra byddan nhw’n bloeddio ‘Hen Wlad fy Nhadau’, ‘Calon Lân’ ac, ie, ‘Bread of Heaven’, wrth yrru ein harwyr rygbi ymlaen i fuddugoliaeth haeddiannol dros ryw bobl dros glawdd Offa, cofiwch am ben-blwydd William Williams Pantycelyn.