6. 5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei Ymchwiliad i Waith Ieuenctid

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 8 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 3:04, 8 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Yn ystod yr ymchwiliad, nododd y pwyllgor nifer o faterion allweddol yr oedd angen i Lywodraeth Cymru weithredu arnynt ar frys. Roeddent yn cynnwys diffyg cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth gan Lywodraeth Cymru, methiant i gynnwys y sector a phobl ifanc yn ddigonol wrth ddatblygu polisïau, a’r angen am fwy o gydweithredu rhwng y sector statudol a’r sector gwirfoddol i wneud y gorau o adnoddau prin. Ddirprwy Lywydd, un testun pryder mawr oedd y gwaith cydbwyso a wynebai awdurdodau lleol wrth ariannu gwasanaethau mynediad agored ac ymyriadau wedi’u targedu ar gyfer grwpiau penodol sydd angen cymorth ychwanegol. Dywedwyd wrthym fod dargyfeirio cyllid i dargedu pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant wedi achosi risg ddifrifol i wasanaethau mynediad agored. Clywsom hefyd fod y newid hwn yn tanseilio’n sylfaenol yr egwyddor fod yn rhaid i ymgysylltiad pobl ifanc â gwasanaethau ieuenctid fod yn seiliedig ar eu dewis eu hunain yn hytrach na’i fod yn ofyniad a roddir arnynt.

Mynegwyd pryder gan gyfranwyr i’n hymchwiliad hefyd fod effaith y gostyngiad yn y cyllid yn cael ei deimlo’n anghymesur gan grwpiau penodol o bobl ifanc. Un enghraifft a nodwyd gan lawer o gyfranwyr oedd yr effaith ar y ddarpariaeth iaith Gymraeg. Teimlwn yn gryf fod yn rhaid i’r Gweinidog fynd i’r afael â’r angen i weithio’n fwy strategol ac ar y cyd rhwng y sectorau statudol a gwirfoddol. Teimlwn fod hwn yn rhwystr sylweddol i ddarparu cynnig gwaith ieuenctid cyffredinol. Mae hefyd yn atal y defnydd gorau o adnoddau cynyddol brin.

Roeddwn yn falch o weld bod y Gweinidog eisoes wedi ymrwymo i adnewyddu’r canllawiau statudol sydd ar waith ac wrth wneud hynny, i gynnal adolygiad o’r strategaeth bresennol. Mae’n dda hefyd fod Llywodraeth Cymru yn mynd i ddatblygu a chyhoeddi cynllun gweithredu manwl erbyn mis Mawrth 2017. Roedd y pwyllgor yn glir fod angen cynllun gweithredu er mwyn gwireddu’r uchelgeisiau polisi lefel uchel. Ddirprwy Lywydd, mae diweddariad o’r strategaeth gwaith ieuenctid yn gam i’r cyfeiriad cywir, ac rwy’n gobeithio y bydd yn creu’r fframwaith mawr ei angen i awdurdodau lleol a’r trydydd sector allu gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol. Bydd hwn yn gam mawr tuag at greu’r gwasanaeth y mae gan ein pobl ifanc hawl iddo.

Fel rhan o ddatblygu’r diben cyffredin hwnnw ar gyfer darparu gwasanaethau ieuenctid, argymhellodd y pwyllgor y dylai’r Gweinidog ddatblygu model cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid. Clywsom dystiolaeth rymus yn cyflwyno’r achos dros fodel cenedlaethol i ysgogi polisi a gweithrediad gwaith ieuenctid. Mae hyn yn rhywbeth y credwn y buasai’n creu mwy o gydweithio, yn lleihau dyblygu ac yn galluogi cyfleoedd gwell ar gyfer datblygu’r gweithlu. Mae’r Gweinidog wedi ymateb yn gadarnhaol i’r argymhelliad allweddol hwn, ac edrychwn ymlaen at glywed mwy o fanylion wrth i gynlluniau ddatblygu yn rhan o’r broses o ailwampio’r canllawiau cenedlaethol.

Roedd yr Aelodau’n cydnabod pwysigrwydd lleoliaeth wrth lunio gwasanaethau ar sail anghenion cymunedau, ac rydym yn hyderus y buasai hyn yn gyraeddadwy wrth ymdrechu i sicrhau mwy o gysondeb. O ran ysgogi mwy o gydweithio, roedd y pwyllgor yn awyddus i weld ymarfer mapio effeithiol ar waith i ddeall lle y ceir bylchau yn y ddarpariaeth. Rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ymhellach y defnydd o asesiadau digonolrwydd lleol i ddigwydd ar lefel awdurdod lleol ac i lywio’r dull gweithredu cenedlaethol. Mae gwneud yn siŵr fod holl bobl ifanc Cymru yn gallu cael mynediad at wasanaethau ieuenctid gydag adnoddau da yn hanfodol er mwyn eu cynorthwyo i gyrraedd eu potensial llawn.

Rwyf am gloi gyda sylw trawiadol gan berson ifanc, a ddywedodd wrthym:

Dylai fod mwy ohonynt ar draws Cymru. Mae angen mwy o arian i dyfu mwy o wasanaethau—mae gormod yn cael eu torri gan gynghorau. Nid yw pawb o fy ffrindiau yn gallu eu mynychu am eu bod yn byw mewn llefydd anghysbell. Mae gweithwyr ieuenctid yn anhygoel ac maent yn ein helpu’n fawr—maent yn achub bywydau.

Rwy’n credu y byddwch yn cytuno bod hyn yn gwneud yr angen am newid radical yn fwy real. Wrth gloi fy natganiad heddiw, hoffwn ddiolch unwaith eto i’r nifer fawr o bobl ifanc a roddodd amser i ymateb i’n harolwg. Gwnaeth cyfraniad enfawr y bobl sy’n gweithio yn y gwasanaethau ieuenctid ledled Cymru gymaint o argraff ar yr aelodau. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gyfraniadau’r Aelodau y prynhawn yma ac at ailedrych ar y mater hollbwysig hwn yn rheolaidd gyda’r pwyllgor yn ystod y Cynulliad hwn. Diolch.