Part of the debate – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 8 Chwefror 2017.
Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon, ac rwyf am ganmol y Cadeirydd a chlercod y pwyllgor am yr holl waith a wnaethant yn helpu i gynhyrchu’r hyn y credaf ei fod yn adroddiad cadarn iawn, gyda rhestr glir iawn o argymhellion ar gyfer y Llywodraeth. Roeddwn yn falch iawn o weld ymateb y Gweinidog i’r adroddiad. Credaf ei bod yn deg dweud i ni gael peth gwrthdaro gyda’r Gweinidog yn ystod yr ymchwiliad hwn, a syndod i ni braidd oedd rhai o’r camau a gymerwyd tra oeddem yn dal i dderbyn tystiolaeth fel rhan o’r ymchwiliad. Er hynny, cafwyd canlyniad cadarnhaol o’r ymchwiliad, ac rwy’n falch iawn ein bod wedi llwyddo i sefydlu hynny.
Fel y Cadeirydd, roeddwn innau hefyd yn llawn edmygedd at yr ymgysylltiad a gawsom â’r sector gwirfoddol, yn arbennig, a’r modd y gwnaethant ddarparu mynediad at safbwyntiau uniongyrchol pobl ifanc. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd sefydlu senedd ieuenctid yng Nghymru yn helpu i gyfleu barn pobl ifanc, nid yn unig i’n pwyllgor, ond i bwyllgorau eraill yn y dyfodol. Rwy’n meddwl y dylem gofnodi ein diolch i’r ymgyrch dros y senedd ieuenctid, sydd, wrth gwrs, wedi bod yma yn y Cynulliad heddiw eto.
Fe wyddom fod gwasanaethau ieuenctid statudol wedi bod dan bwysau, dan rywfaint o bwysau ariannol, ond yr hyn sydd wedi creu argraff arnaf, rwy’n meddwl, yn ystod yr ymchwiliad, yw gweld y gwahanol ffyrdd y mae awdurdodau lleol wedi bod yn helpu i gyflawni eu rhwymedigaethau statudol. Mae’n eithaf clir fod rhai awdurdodau lleol wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar wasanaethau ieuenctid wedi’u darparu’n uniongyrchol gan awdurdodau lleol, ac eraill wedi defnyddio eu hadnoddau cyfyngedig a’u hadnoddau sy’n crebachu, i fuddsoddi yng nghapasiti’r sector gwirfoddol i’w cynorthwyo i ddarparu gwaith ieuenctid. Yn amlwg, mae rhai awdurdodau lleol wedi gwneud gwaith da yn helpu i dyfu capasiti’r sector gwirfoddol, ond ymddengys bod eraill fwy neu lai wedi anwybyddu’r sector gwirfoddol i raddau helaeth, a chredaf fod hynny wedi bod yn eithaf siomedig. Rwy’n credu bod ceisio mapio’r gwasanaethau sydd ar gael yn fater hollbwysig a nodwyd gennym. Roedd yn amlwg iawn o’r holl dystiolaeth a gawsom nad oedd yna ddealltwriaeth fanwl o’r gwasanaethau a oedd ar gael ledled y wlad, yn enwedig gan y mudiadau gwirfoddol niferus megis y Sgowtiaid, grwpiau ffydd a hyd yn oed sefydliadau chwaraeon, a all fod yn cyflawni agweddau ar waith ieuenctid statudol nad ydym bob amser yn gallu eu gweld. Credaf mai’r argymhelliad allweddol yn yr adroddiad yw’r un sy’n ceisio sicrhau bod awdurdodau lleol yn deall yn glir iawn ar lawr gwlad yn eu hardaloedd lleol pa wasanaethau ieuenctid sydd ar gael i bobl ifanc gymryd rhan ynddynt.
Rwy’n meddwl mai’r pryder mawr arall a oedd gennyf wrth dderbyn y dystiolaeth oedd ei bod yn glir iawn, oherwydd y cyllidebau llai, fod mwy o ffocws ar grwpiau bach o bobl ifanc sydd â phroblemau penodol, a bod hynny’n achosi i’r bobl ifanc eraill ddioddef, gan nad oedd cynnig cyffredinol ar gael iddynt yn eu hardaloedd lleol. Rwy’n falch iawn fod y Gweinidog wedi rhoi ymrwymiad clir iawn i fod eisiau sicrhau bod cynnig cyffredinol ar gael a bod pob person ifanc yn gallu gwneud defnydd o wasanaethau ieuenctid y gallent elwa ohonynt.
Gwn ein bod wedi cael dadl yn y pwyllgor ar hyn, ond nid wyf yn credu bod lefel y gwariant ar wasanaethau ieuenctid o reidrwydd yn adlewyrchu ansawdd y gwasanaeth ieuenctid ac argaeledd gwasanaethau ieuenctid ym mhob awdurdod lleol. Felly, er bod yna ddadleuon ynglŷn ag a ddylid clustnodi’r grant cynnal refeniw mewn perthynas â gwasanaethau ieuenctid i gynghorau lleol, nid wyf yn siŵr—credaf fod honno’n dipyn o sgwarnog, i fod yn onest, oherwydd yn y ddau awdurdod lleol y mae fy etholaeth yn eu cynnwys, gwn fod gennym ddarpariaeth ragorol, ond lefelau eithaf isel o wario o gymharu â’r swm a ddyrannwyd yn y grant cynnal refeniw. Mae hynny oherwydd y ffordd y gweithiodd y ddau awdurdod lleol mewn partneriaeth â’r sector gwirfoddol a chyda’r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau ieuenctid o safon uchel.
Felly, yn gryno, Ddirprwy Lywydd, rwy’n hapus iawn gyda chanlyniad yr adroddiad. Rwy’n credu ei fod yn rhoi’r Llywodraeth ar y dudalen gywir o ran ei hagwedd at wasanaethau ieuenctid, a gobeithio y byddwn yn gweld cynnig cyffredinol ar draws Cymru ac y bydd gennym well dealltwriaeth yn y blynyddoedd i ddod o ba wasanaethau sydd ar gael gan y partneriaid eraill sy’n eu darparu ar draws y wlad.