Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 8 Chwefror 2017.
Rydw i yn meddwl ei bod hi’n hen bryd i ni fel Cynulliad fod yn trafod y sector yma a’r gwasanaeth ieuenctid oherwydd mae’r sector wedi dweud wrthym ni eu bod nhw’n teimlo yn ynysig ac wedi’u tanbrisio yn y blynyddoedd diwethaf yma. Pan rŷch chi’n gofyn i bobl, wrth gwrs, mae pawb yn cytuno bod gwaith ieuenctid yn beth da, ond efallai nad ydyn nhw’n sylweddoli pwysigrwydd gwirioneddol y sector a’r teimlad nad yw hynny yn cael ei adlewyrchu o reidrwydd yn y gwaith y mae’r Llywodraeth ac awdurdodau lleol ac eraill yn ei wneud.
Nawr, rŷm ni’n gwybod bod gwaith ieuenctid, wrth gwrs, yn ymbweru pobl ifanc, yn rhoi profiadau cyfranogol iddyn nhw, a mynegiadol hefyd—‘expressive’—a phrofiadau addysg. Ar ei orau, mae gwaith ieuenctid yn creu gwell dinasyddion mwy hyderus, wedi’u harfogi â sgiliau bywyd, ac unigolion mwy cydnerth—llawer o’r hyn sy’n cael ei drafod yng nghyd-destun Donaldson a diwygio’r cwricwlwm o fewn addysg ffurfiol. Mae gwaith ieuenctid yn gwneud llawer o hyn. Yn sicr mae’n ychwanegu gwerth i addysg ffurfiol, a hefyd yn ymgysylltu â’r rhai sy’n troi cefn ar addysg ffurfiol, sydd yn wasanaeth pwysig iawn yn ei hun.
Mae’n enghraifft ardderchog o wariant ataliol; hynny yw, buddsoddi yn gynnar i osgoi costau yn nes ymlaen o safbwynt cymdeithasol, o safbwynt iechyd, o safbwynt y gwasanaeth cyfiawnder, ac yn y blaen. Fel rŷm ni wedi clywed yng ngeiriau’r Cadeirydd, un o’r canfyddiadau mwyaf arwyddocaol hyd a gwelaf i yn yr adroddiad gan y pwyllgor yw ein bod ni wedi codi’r llen ar y dirywiad sylweddol sydd yna o ran ariannu, o ran staffio ac o ran darpariaeth yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r gwariant sydd wedi’i gyllidebu trwy’r grant cynnal refeniw, yr RSG, i awdurdodau lleol ar gyfer gwasanaethau ieuenctid wedi lleihau bron 25 y cant dros y pedair blynedd diwethaf—nid yr unig ffynhonnell i leihau, wrth gwrs, a rŷm ni’n cydnabod hynny, ond yn fy marn i, un o’r mwyaf arwyddocaol. Nid yw’n unigryw i waith ieuenctid, ond mae’r effaith yn sgil hynny ar bobl ifanc, yn anochel, yn sylweddol iawn.
Mae cwymp wedi bod o 20 y cant mewn capasiti staffio mewn dim ond un flwyddyn, a chwymp mewn aelodau cofrestredig darpariaeth gwaith ieuenctid awdurdodau lleol—o 20 y cant o bobl ifanc yn 2013 lawr i 17 y cant ymhen dwy flynedd o hynny. Mae CWYVS, wrth gwrs, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol—ac mi ddylwn i ddatgan diddordeb fel un o lywyddion anrhydeddus y corff hwnnw—yn dweud nad yw tua 30 y cant o’i aelodau ddim yn rhagweld parhau y tu hwnt i’r flwyddyn ariannol nesaf yn yr hinsawdd sydd ohoni.
Felly, gydag ystadegau fel yna, mae’n rhaid inni sylweddoli bod y gwasanaeth ieuenctid ar ymyl dibyn, mewn gwirionedd, ac mae angen gweithredu ar fyrder. Felly, mae’r adroddiad yma yn gwbl amserol. Mae gennym ni Lywodraeth gymharol newydd erbyn hyn, yn sicr Gweinidog newydd, ac mae’r pwyllgor bellach yn cynnig arweiniad ac argymhellion o ran rhai o’r diwygiadau rydym ni’n teimlo sydd eu hangen wrth ddatblygu’r sector yma. Mae angen, yn sicr, ailddatgan pwysigrwydd gwasanaethau ieuenctid, rhoi cydnabyddiaeth ddyledus i’w cyfraniad pwysig a chanolog i fywyd yng Nghymru ac adlewyrchu hynny ym mlaenoriaethau’r Llywodraeth, awdurdodau lleol a chymdeithas yn ehangach.
Mae yna ymrwymiad, wrth gwrs, gan y Gweinidog i ddarpariaeth mynediad agored dwyieithog sydd ar gael yn gyffredinol, hynny yw, ‘universal open access’. Mae’n ddatganiad o fwriad calonogol. Mae’n fan cychwyn addawol iawn ond yn eithriadol o uchelgeisiol, ac mi fydd cyflawni hynny yn heriol iawn, rwy’n siŵr. Ond, fel y mae ar hyn o bryd, ac fel rydym wedi clywed fel pwyllgor, mae yna loteri cod post o safbwynt darpariaeth. Mae’r mynediad sydd gennych chi i wasanaethau yn rhy aml o lawer yn dibynnu ar lle rydych chi yn byw. Felly, i wyrdroi hynny, mae angen, yn sicr, gweithredu ar rai o’r mesurau mae’r pwyllgor yn eu hargymell ac roedd y cadeirydd yn eu hamlinellu.
Yn sicr, mae angen dod â’r sector sydd wedi’i gynnal—y ‘maintained sector’—a’r sector wirfoddol yn nes at ei gilydd, a mwy o gydweithio, nid dim ond ar lawr gwlad ond ar lefel strategol yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Mae angen, fel rydym ni wedi clywed, adolygu’r strategaeth gwaith ieuenctid cenedlaethol, adnewyddu’r cynlluniau statudol a chreu cynllun gweithredu manwl. Mae angen gwell ymgysylltiad hefyd rhwng y Llywodraeth a’r sector, yn enwedig trwy’r grŵp cyfeirio gwaith ieuenctid, ac wrth gwrs y sôn yma sydd nawr am gael fframwaith atebolrwydd ar gyfer defnydd awdurdodau lleol o arian ar gyfer gwaith ieuenctid drwy’r grant cynnal refeniw. Ac wrth gwrs, drwy hyn oll i gyd, mae'n rhaid inni wneud yn siŵr hefyd bod llais pobl ifanc yn ganolog i’r drafodaeth yma ar bob agwedd o ddarpariaeth y gwasanaeth ieuenctid.
Mae llawer mwy yn yr adroddiad, wrth gwrs, a bydd cyfle yn y misoedd i ddod i gychwyn taclo rhai o’r heriau pwysicaf yma a chreu sylfaen i adeiladu gwasanaeth ieuenctid cenedlaethol o’r radd flaenaf a fydd yn hygyrch i bawb, ym mhob rhan o’r wlad, ym mha bynnag iaith. Mae pobl ifanc Cymru, a chymdeithas ehangach a dweud y gwir, yn mynnu hynny ac yn haeddu dim llai.