Part of the debate – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 8 Chwefror 2017.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi am alw arnaf i siarad yn y ddadl bwysig hon am yr adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar waith ieuenctid.
Roedd yn destun pryder mawr i mi glywed gan bobl yn y maes gwaith ieuenctid ynglŷn â sut y mae darpariaethau ar gyfer pobl ifanc wedi lleihau i’r fath raddau. Yn bersonol rwyf o’r farn, ac rwy’n meddwl mai dyma oedd barn y pwyllgor cyfan, fod gwaith ieuenctid yn gwbl hanfodol gan ei fod yn cyrraedd pobl y tu allan i leoliad ffurfiol yr ysgol. Rwy’n meddwl ein bod i gyd yn gwybod bod blynyddoedd yr arddegau yn arbennig yn adegau o straen ac yn anodd iawn i bobl ifanc.
Cefais fy atgoffa o hynny wrth i ni nodi ei bod yn Wythnos Iechyd Meddwl Plant yr wythnos hon. Cafwyd ffigurau gan yr NSPCC sy’n dangos cynnydd problemau iechyd meddwl ymysg pobl ifanc, a welwyd yn y nifer o alwadau i Childline. Mae’n ymddangos mai plant a phobl ifanc rhwng 12 a 15 sy’n gwneud traean o’r galwadau a wneir, ac mae merched bron saith gwaith yn fwy tebygol o ofyn am gymorth na bechgyn. Rwy’n credu bod pawb ohonom wedi clywed am y pryderon mawr sydd gan lawer o ferched ynglŷn â delwedd y corff yn arbennig. Dyna rai o’r pethau sy’n dangos y materion anodd y mae’n rhaid i blant a phobl ifanc ymdopi â hwy ar hyn o bryd.
Felly, mae’n hanfodol bwysig eu bod yn cael cyfle i ddod i gysylltiad â gweithwyr proffesiynol medrus, mewn gwirionedd, oherwydd dyna yw’r gweithwyr ieuenctid hyn, mewn lleoliad anffurfiol, lle y gallant dynnu sylw at y problemau hyn mewn ffordd nad yw’n fygythiol. Felly, rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn rhoi mwy o hwb i’r gwasanaethau ieuenctid.
Yn fy ardal fy hun, gallaf dystio i’r lleihad yn y gwasanaethau. Ar un adeg, roedd clwb ieuenctid yn gweithredu ar raddfa lawn bum diwrnod yr wythnos yn yr adeiladau ieuenctid ar dir Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd. Mae hwn bellach wedi’i gyfyngu i un noson yr wythnos, ac yn cael ei weithredu gan yr YMCA yn eglwys Ararat. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r sector gwirfoddol ac i eglwys Ararat am ddarparu’r gwasanaeth hwn, ond un noson yr wythnos yn unig ydyw ac mae dan ei sang. Nid oes amheuaeth—rhaid i chi dderbyn y ffaith fod y gwasanaeth ar gyfer ein pobl ifanc wedi lleihau mewn gwirionedd. Pan ddaeth cynigion i newid y gwasanaeth, cefais nifer o gyfarfodydd gyda’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan ac roeddent yn dweud eu bod eisiau rhywle i fynd, dyna i gyd, rhywle lle nad oedd pwysau arnynt a rhywle lle y gallent gael hwyl. Fel y mae nifer o’r Aelodau wedi sôn, rwy’n bryderus iawn am y lleihad yn y gwasanaethau mynediad agored, gan fy mod yn credu bod gan bob plentyn a phob person ifanc hawl i gael cyfle i fynd i rywle, nid oherwydd bod ganddynt fater i’w godi neu broblem benodol, ond lle sy’n agored i bawb fynd iddo. Yn yr amgylchiadau hynny, os oes ganddynt fater i’w godi neu broblem benodol, y gobaith yw y gellir eu helpu i fynd i’r afael â hynny.
Roeddwn i eisiau sôn yn arbennig am y Sgowtiaid a’r Geidiaid, oherwydd yn yr ymchwiliad soniwyd am y Sgowtiaid a’r Geidiaid fel gwasanaethau sy’n darparu gwaith ieuenctid. Yn y fan hon, mewn gwirionedd, hoffwn ddefnyddio’r cyfle i dalu teyrnged i grŵp Ail Sgowtiaid Llandaf sy’n weithredol iawn yng Ngogledd Caerdydd. Maent wedi bod yn ddeiliaid neuadd eglwys yn Ystum Taf ers blynyddoedd lawer. Mewn gwirionedd maent dan fygythiad o golli eu safle am fod y tir yn cael ei werthu. Maent newydd gael estyniad arall o dri mis i geisio codi’r £100,000 ychwanegol i brynu’r eiddo. Maent eisoes wedi codi—grŵp bach yw hwn—y swm syfrdanol o £150,000 drwy ymdrechion gwirfoddolwyr ymroddedig, a chredaf fod hynny’n hollol anhygoel. Felly, roeddwn i eisiau talu teyrnged iddynt yn ystod y ddadl hon heddiw, ond gallaf ddweud bod y gwaith y maent yn ei wneud gyda’r bobl ifanc yn yr ardal, a llawer ohonynt yn dod o gartrefi difreintiedig, yn hollol wych mewn gwirionedd.
Rwy’n credu ei bod gwbl hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o gyfarwyddyd i’r gwasanaeth ieuenctid. O edrych ar y dystiolaeth a gawsom, rwy’n teimlo bod yna berygl ei fod yn graddol ddiflannu o ran y ffordd yr ydym bob amser wedi ei adnabod. Rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog, yn sgil ein hadroddiad, yn rhoi hwb o’r newydd i’r gwasanaeth hwn. Yn sicr, rydym angen hynny yn y maes hwn. Credaf mai mater pwysig iawn arall yw rhoi llais i bobl ifanc yn y gwasanaeth. Mae nifer o siaradwyr wedi sôn am hyn eisoes. Ond rwy’n gobeithio, gyda ffurfio’r gwasanaeth o’r newydd os mai dyna fydd yn digwydd, y bydd gan bobl ifanc lais o ran sut y dylai’r gwasanaeth fod, a dylent fod yn rhan ganolog o ddatblygu’r gwasanaeth.
I gloi, rwy’n meddwl ein bod i gyd yn teimlo ei fod yn wasanaeth cwbl hanfodol. Ni allwn adael iddo ddiflannu’n ddim. Gwyddom fod yna bwysau ar holl wasanaethau awdurdodau lleol, ond mae gennym lawer o ewyllys da yn y sector gwirfoddol ac mae’n gwbl hanfodol ein bod yn sicrhau bod y sector gwirfoddol a’r sector statudol yn gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol.