6. 5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei Ymchwiliad i Waith Ieuenctid

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 8 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 3:27, 8 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn longyfarch a diolch i’r sefydliadau a’r arbenigwyr a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad am eu parodrwydd i ddweud sut y maent yn gweld pethau. Mae rhanddeiliaid yn y sectorau statudol a gwirfoddol yn siarad am ddiffyg arweiniad a chyfeiriad strategol gan Lywodraeth Cymru. Mae Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol—CWVYS—yn nodi nad yw 30 y cant o’i aelodau yn meddwl y byddant yn gallu parhau y tu hwnt i’r flwyddyn ariannol nesaf. Ymateb y Gweinidog i sylwadau a wnaed gan CWVYS oedd ceisio tanseilio hygrededd CWVYS a disgrifiodd eu barn fel un leiafrifol. Wel, mae aelodau’r sefydliad yn cynnwys y Groes Goch Brydeinig, Mencap, Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, Cyngor Cydraddoldeb Hiliol Cymru, Alcohol Concern, Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu, y Sgowtiaid, Shelter a llawer o sefydliadau gwych ac uchel eu parch eraill. Maent yn cynrychioli buddiannau llawer mwy o bobl yn y sector nag y bydd un AC yn ei wneud. Wel, ni waeth beth y mae’r Gweinidog yn ei feddwl o’r sefydliadau hyn, maent yn dweud bod y strategaeth yn anghywir.

Yn anffodus, o ran penderfynu dyfodol y ddarpariaeth ieuenctid, ni ellir diystyru’r Gweinidog mor hawdd ag y bydd ef yn ceisio diystyru sylwadau sefydliadau fel CWVYS. Mae’n dweud bod strategaeth genedlaethol ar gael ar gyfer gwaith ieuenctid a chyllid wedi’i ddyrannu ar gyfer ei gweithredu. Wel, nid yw dyrannu cyllid a llunio dogfen grand yr un fath â chydlynu’r broses o’i gweithredu yn y sectorau statudol a gwirfoddol ledled Cymru. Mae’r farn a fynegwyd gan y Gweinidog a’r sefydliadau mor wahanol nes ei bod yn demtasiwn rhagdybio naill ai nad yw’r Gweinidog yn cyfathrebu â’r rhanddeiliaid hyn, nad yw wedi gwrando, neu ei fod yn gwadu’r gwirionedd. Mae’r adroddiad yn argymell y dylai’r Gweinidog harneisio arbenigedd a dealltwriaeth y prif grŵp swyddogion ieuenctid a CWVYS. Carwn ei annog i weithio gyda’r grwpiau hynny i wella gwaith ieuenctid ar draws Cymru.

Mae’r adroddiad yn mynd rhagddo i nodi’r angen i Lywodraeth Cymru ddeall yn well beth yw lefelau’r ddarpariaeth ar draws y ddau sector yng Nghymru, gan amlygu i bob pwrpas efallai nad yw Llywodraeth Cymru yn gwbl sicr pa wasanaethau ieuenctid sy’n cael eu cynnig, na ble. Mae Llywodraeth Cymru wedi goruchwylio gostyngiad o bron i 25 y cant yn y cyllid i’r gwasanaeth ieuenctid dros y pedair blynedd diwethaf, lleihad yn nifer yr aelodau sy’n gofrestredig yn y ddarpariaeth gwaith ieuenctid, o 20 y cant o bobl ifanc yn 2013-14 i 17 y cant o bobl ifanc yn 2015-16, ac mae awdurdodau lleol yn nodi bod 148 o staff cyfwerth ag amser llawn wedi cael eu colli ar draws y sector statudol yn 2015-16.

Efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn honni i amddiffyn eu hunain nad yw’r cronfeydd a anfonwyd draw o Loegr yn ddigonol. Ond mae’n ymwneud â blaenoriaethau, a buaswn yn sicr yn cwestiynu a yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn y drefn iawn yma. Mae’r adroddiad yn mynegi pryder fod yna ddiffyg atebolrwydd am y defnydd o arian a ddyrennir i awdurdodau lleol drwy’r grant cynnal refeniw, ac yn datgan bod yn rhaid i’r Gweinidog sicrhau bod mecanweithiau yn eu lle i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael eu dwyn i gyfrif am y defnydd o’r cronfeydd hynny ar gyfer gwaith ieuenctid. Hoffwn glywed a fydd y Gweinidog yn gweithredu hyn, neu’n darparu cynigion ynglŷn â sut y bydd yn gweithredu.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cwestiynu a yw ystadegau Llywodraeth Cymru ar y defnydd o gyllid drwy’r grant cynnal refeniw yn ddibynadwy. Mae hwn yn destun pryder penodol. Os nad yw Llywodraeth Cymru yn sicrhau eu bod yn cael y data cywir, mae’n bosibl fod yr hyn a ddywedant am strategaethau gwaith ieuenctid yn ddiystyr. Nid oes unrhyw ffordd o wybod a yw awdurdodau lleol yn gwario arian ar bethau eraill, ac nid oes neb yn atebol.

Felly, i grynhoi, mae gennym Weinidog sy’n diystyru llawer o’r hyn sydd gan y rhanddeiliaid i’w ddweud, un nad yw’n ymddangos ei fod yn gwybod ble y mae’r ddarpariaeth gyfredol na beth yw hi, ac sydd o bosibl yn defnyddio data amheus. Yn syml iawn, ni allwn ni a phobl Cymru sicrhau bod yr hyn y mae’n ei ddweud ar y mater pwysig hwn yn gredadwy. Gall darpariaeth ieuenctid weddus drawsnewid bywydau a newid dyfodol pobl ifanc. Dylai pob person ifanc gael mynediad at wasanaethau ieuenctid, os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Fy nghwestiwn mawr, felly, yw a fydd y Gweinidog yn gweithredu argymhellion yr adroddiad, neu’n gweithredu arno fel arall. Diolch.