Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 8 Chwefror 2017.
Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod am dderbyn yr ymyriad. A ydych yn cytuno mai’r hyn yr ydym ei angen hefyd mewn gwirionedd ar gyfer ein pobl ifanc yw cyngor gyrfaoedd gweddus? Rwy’n meddwl bod angen ailwampio’r gwasanaeth gyrfaoedd yng Nghymru i wneud yn siŵr fod cyngor gyrfaoedd cywir yn cael ei roi, nid yn unig gan unigolion sy’n gweithio mewn ysgolion neu unigolion sy’n gweithio mewn colegau addysg bellach, ond yn annibynnol, i roi cefnogaeth wedi’i theilwra i bobl ifanc ledled Cymru.