Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 8 Chwefror 2017.
Diolch i’r Gweinidog am dderbyn yr ymyriad. Ni allwn gytuno mwy â chi ynglŷn â chwalu’r rhwystrau, Weinidog, ond efallai mai ein lle ni ar yr ochr hon yw gofyn y cwestiwn hwnnw ac i chi fel y Gweinidog roi rhai o’r atebion i ni, gobeithio. Oherwydd ers i mi fod yma—ers 2007—rydym wedi bod yn tynnu sylw at y rhwystrau hyn, o ochr y Llywodraeth ac o ochr yr wrthblaid, ond a allwn gael syniad sut rydych yn mynd i wraidd hyn drwy’r systemau addysg fel bod y rhwystrau hynny’n cael eu chwalu a’r cysylltiadau’n cael eu creu?