QNR – Senedd Cymru ar 8 Chwefror 2017.
Rydw i’n arwain ar faterion ymchwil ac arloesi. Nid wyf wedi cynnal trafodaethau â phrifysgolion ynglŷn â chreu corff cyfatebol i UK Research and Innovation. Fodd bynnag, roedd adroddiad Hazelkorn yn argymell y dylid adolygu strategaeth a pholisi ar gyfer ymchwil ac arloesi a ariennir gan y Llywodraeth. Gofynnwyd i’r Athro Graeme Reid ymgymryd ag adolygiad o fuddsoddiadau gan Lywodraeth Cymru ac asiantaethau cysylltiedig mewn gweithgarwch ymchwil ac arloesi yng Nghymru. Bwriad ei waith yw nodi cryfderau mewn ymchwil ac arloesi yng Nghymru ac amlinellu sut y gellir defnyddio’r asedau hyn yn fwy effeithiol gan fusnesau, cymunedau a’r llywodraeth.