Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 14 Chwefror 2017.
Syniad diddorol eto, a rhywbeth, yn sicr, y byddaf yn ymchwilio iddo. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod o ran pa sylwadau a wnaed am yr Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol. Mae'n fenter, mewn egwyddor, yr ydym wedi ei chefnogi, ond byddaf yn ysgrifennu ato gyda rhagor o fanylion o ran sut y sefydlwyd y ganolfan a pham y cafodd ei sefydlu yn Llundain.