Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 14 Chwefror 2017.
Brif Weinidog, wrth i Gaerdydd barhau i greu swyddi a denu llawer iawn o ymwelwyr, rydym ni’n gweld mwy a mwy o dagfeydd ar y ffyrdd. Sylwaf fod cynnig nawr i archwilio ymarferoldeb defnyddio'r afon Taf a'r bae fel ein prif lwybrau dŵr prifwythiennol o gwmpas y ddinas—sydd eisoes yn boblogaidd i dwristiaid, ond y gallai fod â defnydd masnachol hefyd trwy symud cymudwyr. A yw'r Llywodraeth yn barod i ystyried hyn?