Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 14 Chwefror 2017.
Brif Weinidog, byddwch yn gwybod bod polisi cenedlaethol wedi hysbysu’r penderfyniad yn Llangennech yn Sir Gaerfyrddin i newid ysgol o ddwy ffrwd i gyfrwng Cymraeg. Nawr, mae’r penderfyniad hwnnw angen eich cefnogaeth chi, ond mae hefyd angen eglurhad digynnwrf i drigolion. Mae gen i rai pryderon difrifol am yr awyrgylch gwenwynig a dweud y gwir, sydd wedi dod i'r amlwg ynghylch y cwestiwn hwn. Ac rwy’n ymwybodol, ymhlith grŵp o drigolion sy’n ymgyrchu yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir Caerfyrddin, bod rhai pobl yn sefyll dros y Blaid Lafur yn Llangennech yn etholiadau cynghorau cymuned a sirol mis Mai. Nawr, mae wedi dod i’m sylw bod rhai o'r ymgeiswyr hynny yn honni eu bod yn gweithio gydag UKIP, gan wirio a chytuno â datganiadau arweinydd UKIP ar y mater hwn—[Torri ar draws.]