Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 14 Chwefror 2017.
Yn y pwyllgor ar y newid yn yr hinsawdd, clywsom dystiolaeth fod ardrethi busnes ychwanegol yn cael eu codi ar fusnesau sydd wedi gwneud y peth iawn ac wedi gosod paneli solar ar eu toeau. Felly, fy nghwestiwn i, a dweud y gwir, yw: pa ysgogwyr sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau sy'n cael effaith gymdeithasol ac amgylcheddol gadarnhaol, e.e. sefydliadau bwyd iach, ac i atal busnesau sy'n cael effaith negyddol, e.e. siopau betio, benthycwyr diwrnod talu a sefydliadau eraill a godwyd gan Mike Hedges yn gynharach?