Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 14 Chwefror 2017.
Rydym ni’n gwneud hyn trwy gaffael yn bennaf. Mae polisi caffael Cymru yn annog sector cyhoeddus Cymru i ddefnyddio dulliau lle mae manteision cymunedol neu gymalau cymdeithasol yn ganolog i feini prawf dyfarnu contractau pan fydd hynny’n bosibl. Trwy wneud hynny, gall penderfyniadau dyfarnu contractau ffafrio'r cyflenwyr hynny sy'n cynnig tystiolaeth gref o gyflawni yn erbyn ein gofynion cymal cymdeithasol. Felly, gall caffael fod yn arf effeithiol i annog arferion busnes da ac, yn wir, arferion busnes da yn y gymuned.