Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 14 Chwefror 2017.
Diolch am hynna, Brif Weinidog. Fel y gwyddoch yn iawn, mae'r cyswllt rheilffordd teithwyr Casnewydd i Lynebwy yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i bobl leol, a cheir llawer o rwystredigaeth a diffyg amynedd nad yw wedi ei sefydlu eto. A allwch chi, Brif Weinidog, roi sicrwydd pellach heddiw bod y cyswllt rheilffordd i deithwyr rhwng Casnewydd a Glynebwy yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru? Ac a allwch chi roi unrhyw amseroedd o ran pryd y bydd yn weithredol—yr amseroedd diweddaraf, os yn bosibl?