Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 14 Chwefror 2017.
Brif Weinidog, mae adnewyddiad masnachfraint Cymru a’r gororau yn prysur agosáu. A yw Llywodraeth Cymru o leiaf wedi dechrau’r broses o archebu neu ystyried archebu cerbydau newydd ar gyfer y fasnachfraint honno? Gofynnaf y cwestiwn oherwydd, o ystyried ei bod yn cymryd hyd at bedair blynedd i gomisiynu cerbydau newydd-nid yw fel prynu car yn y garej lleol—a ydych chi’n rhannu fy mhryderon bod perygl na fydd gan y cwmni trenau newydd unrhyw ddewis ond dibynnu ar y stoc bresennol ar ddechrau'r fasnachfraint, y bydd bron yn sicr yn ei hadnewyddu yn y pen draw, a phrin y byddai hynny’n ddechrau newydd i’r fasnachfraint newydd y byddai'r cyhoedd yn gobeithio ei weld?