Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 14 Chwefror 2017.
Wel, gall fod yn drac dwbl, gall fod yn drac dwbl rhannol, ac efallai mai signalau fydd yn gwneud y gwahaniaeth. Mae'n newyddion da, wrth gwrs, bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio cymaint bod angen cynyddu amlder. Bydd y pethau hyn, ymhlith pethau eraill, yn cael eu hystyried, gan weithio gyda sefydliadau fel Network Rail, i ddarparu gwasanaeth gwell yn y dyfodol. Unwaith eto, mae hynny'n sicr yn rhan o'r syniadau am y metro a’r fasnachfraint newydd.