Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 14 Chwefror 2017.
Mae’n hollbwysig. Rydym yn gwybod bod pysgod cregyn yn bwysig iawn i’r diwydiant pysgodfeydd yng Nghymru. Mae’r rhan fwyaf o’r llongau sydd gyda ni yn llongau eithaf bach, sydd yn dal pysgod cregyn, ac nid ydyn nhw’n mynd yn bell o’r arfordir. Ac maen nhw’n gwybod, ac rydym ni’n gwybod, bod yna farchnad gref iddyn nhw yn Ewrop. Os byddai unrhyw beth yn digwydd i wanhau eu sefyllfa nhw yn y farchnad honno, wel, nid oes modd arall iddyn nhw wneud yr un elw. Dyna pam mae hi mor bwysig i sicrhau bod y farchnad Ewropeaidd ar agor ar yr un termau yn y dyfodol ag y mae hi nawr.