<p>Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 14 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 2:15, 14 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, ac roeddwn i’n falch iawn o groesawu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i Dorfaen yr wythnos diwethaf i agor dwy ysgol gynradd newydd yng Nghwmbrân yn swyddogol: Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam ac Ysgol Gynradd Gymunedol Blenheim Road, ac adeiladwyd y rhain yn rhan o'r rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Gydag Ysgol Panteg, sydd i fod i agor i ddisgyblion yn ddiweddarach y mis hwn, mae'n golygu y bydd cyfanswm y buddsoddiad tua £20.5 miliwn. A wnewch chi ymuno â mi, Brif Weinidog, i groesawu'r ymrwymiad a’r buddsoddiad gan gyngor Torfaen a Llywodraeth Cymru, sy'n gweithio mewn partneriaeth i ddarparu cyfleusterau addysg o'r radd flaenaf i'n plant?