Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 14 Chwefror 2017.
Yn wir. Mae fy ffrind yr Aelod dros Dorfaen yn llygad ei le: mwy na £20 miliwn wedi ei fuddsoddi mewn ysgolion yn Nhorfaen—enghraifft dda o'r awdurdod lleol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu'r gorau i'n plant, ac enghraifft dda arall eto o Lywodraeth Cymru ac awdurdod lleol a reolir gan Lafur yn darparu ysgolion sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac yn dda i blant Torfaen.