– Senedd Cymru am 2:57 pm ar 14 Chwefror 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Chwaraeon Cymru, ac rydw i’n galw ar y Gweinidog, Rebecca Evans.
Diolch i chi, Lywydd. Fe hoffwn i ddiweddaru'r Aelodau ar y ffordd ymlaen o ran y bwrdd a threfn lywodraethu Chwaraeon Cymru. Bydd yr Aelodau'n cofio, yn hwyr y llynedd, y gwnaed y penderfyniad i atal gweithgareddau'r bwrdd, yn dilyn arwyddion clir bod perthynas anodd wedi datblygu rhwng rhai aelodau o'r bwrdd ac, o ganlyniad, nid oedd mewn sefyllfa i gyflawni ei ddyletswyddau yn effeithiol.
Fel y dywedais wrth yr Aelodau ar y pryd, roedd atal y gweithgareddau yn weithred niwtral a dros dro, a’i bwrpas yn bennaf oedd bod yn gyfnod ymdawelu er mwyn i bawb a oedd yn gysylltiedig fyfyrio, ac i roi amser i mi, fel y Gweinidog sy’n gyfrifol am Chwaraeon Cymru, gael fy mriffio ar gefndir y sefyllfa a oedd wedi codi, drwy adolygiad o sicrwydd a gynhaliwyd gan weision sifil. Fy mhrif amcan trwy gydol y sefyllfa, a fy nghyfrifoldeb fel Gweinidog, yw sicrhau dyfodol cynaliadwy i Chwaraeon Cymru a sicrhau y ceir sefydliad cydlynol sy’n gweithredu’n dda.
Canfu'r adolygiad o sicrwydd fod gwrthdaro rhwng diwylliannau wedi datblygu rhwng y cadeirydd ac aelodau eraill o'r bwrdd. Arweiniodd y gwrthdaro rhwng diwylliannau a dulliau hwn at ddirywiad yn y berthynas rhwng y cadeirydd ac aelodau eraill y bwrdd ac, yn y pen draw, at gynnal pleidlais o ddiffyg hyder fis Tachwedd diwethaf.
Mae’n ddyletswydd arnaf i gymryd camau pan fo hangen, waeth pa mor anodd neu gymhleth yw’r broblem. Ni fu hyn yn broses hawdd i unrhyw un a oedd yn gysylltiedig, ac rwyf i wedi canolbwyntio ar geisio dod o hyd i ffordd gref a sefydlog ymlaen i Chwaraeon Cymru, ei staff a'r bwrdd, sydd, yn y pen draw, yn geidwaid dros £20 miliwn y flwyddyn o arian cyhoeddus. Ar y pwynt hwn, yr hyn sy’n bwysig i mi yw sicrhau bod staff yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i weithio'n effeithiol, a thalaf deyrnged i'w cryfder dros y misoedd diwethaf—maen nhw’n haeddu clod mawr.
Oherwydd materion diogelu data a chyfrinachedd, ac ar sail cyngor cyfreithiol, byddai'n amhriodol imi roi sylwadau manwl ar ganfyddiadau'r adolygiad o sicrwydd. Rwyf i’n awyddus i’w gwneud yn glir, er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, bod y casgliadau yn ymwneud yn bennaf â chwalu sylweddol o ran rhai o’r perthnasoedd rhyngbersonol ar lefel uwch yn Chwaraeon Cymru. Mae rhai materion eto i gael sylw o ganlyniad i'r broses adolygu sicrwydd. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi cael nifer o gwynion ffurfiol ar ôl i'r adolygiad gael ei gwblhau.
Ar sail cyngor yr wyf wedi’i gael ar y rhain, rwyf wedi penderfynu cymryd y camau canlynol: Rwyf i wedi atal dros dro y cadeirydd, Dr Paul Thomas, er mwyn cynnal proses briodol a ffurfiol o ganlyniad i'r cwynion a gafwyd. Rwy’n pwysleisio bod hyn, unwaith eto, yn weithred niwtral ac nid yw’n rhagfarnu canlyniad y broses mewn unrhyw ffordd. Mae Dr Thomas wedi ei hysbysu am y datblygiad hwn.
Rwyf hefyd wedi atal dros dro yr is-gadeirydd, Adele Baumgardt, oherwydd pryderon ar wahân sydd wedi codi ynghylch gweithrediad cydlynol y bwrdd a'i berthynas â Gweinidogion Cymru. Yn yr un modd â Dr Thomas, gweithred niwtral yw hon, ac mae hithau hefyd wedi ei hysbysu.
Hoffwn weld aelodau eraill bwrdd presennol Chwaraeon Cymru yn aros yn eu swyddogaethau, o dan arweinyddiaeth dros dro. Mae fy swyddogion wedi siarad ag aelodau'r bwrdd heddiw i’w hysbysu am y sefyllfa ac i ofyn iddyn nhw barhau. O heddiw ymlaen, felly, rwy’n adfer gweithgareddau'r bwrdd. Bydd hyn yn galluogi nifer o gamau pwysig i gael eu cymryd, er enghraifft, y broses o bennu’r gyllideb cyn y flwyddyn ariannol newydd ym mis Ebrill.
Heddiw, rwy'n penodi Lawrence Conway yn gadeirydd dros dro. Mae wedi cwblhau dros 40 mlynedd o wasanaeth cyhoeddus, ac mae ganddo brofiad penodol o'r rhyngwyneb rhwng y Llywodraeth a chyrff noddedig. Bydd yn helpu i arwain Chwaraeon Cymru drwy'r cyfnod anodd hwn, ac yn rhannu ein hamcan allweddol o adfer sefydlogrwydd sefydliadol. Rwyf hefyd wedi gofyn i John Taylor, cyn brif weithredwr ACAS, weithio gydag ef mewn swydd ymgynghorol er mwyn sicrhau y gall y bwrdd weithredu fel corff gweithredu cydlynol. Nid yw'n bosibl nac, mewn gwirionedd, yn ddymunol rhoi amserlen ar gyfer y trefniadau dros dro presennol, ond rwyf yn awyddus i ailadrodd y pwysigrwydd yr wyf yn ei osod ar ddilyn proses briodol, er tegwch i'r unigolion dan sylw. Hoffwn i’r prosesau hyn ddod i ben cyn gynted ag y bo modd.
Gan edrych tuag at y dyfodol, mae'n bwysig bod Chwaraeon Cymru yn ei gyfanrwydd yn parhau'n addas i’w ddiben fel sefydliad. Mae cyfraniad chwaraeon i les corfforol a meddyliol ein gwlad yn hanfodol ar lefel elit ac ar lawr gwlad, ac mae'n rhaid i Chwaraeon Cymru barhau i fod yn y rheng flaen yn hynny o beth. Felly, rwyf yn awyddus i weld yr adolygiad o Chwaraeon Cymru, a ddechreuodd y llynedd, yn cael ei gwblhau, yn ddelfrydol gan aelod o'r panel annibynnol presennol a’i adrodd i mi cyn gynted ag y bo modd. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach i’r Aelodau ynglŷn â hyn yn y dyfodol agos iawn.
Fel y dywedais yn gynharach, mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn i bawb, ac rwy’n gresynu nad wyf i wedi gallu rhoi’r sicrwydd am y dyfodol y byddwn i wedi dymuno ei roi heddiw. Fodd bynnag, yr hyn sydd ei angen yma yw ateb hirdymor, nid ateb dros dro, ac mae angen i mi gael sicrwydd bod trefn lywodraethu Chwaraeon Cymru yn gwbl addas i’w diben ac yn gydnerth yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Mae hynny, rwy’n credu, yn amcan y gellir ei rannu ar draws y Siambr hon. Diolch.
Cyn i mi ateb, a fydd y Gweinidog cystal â chadarnhau pwy yw Lawrence Conway? Ai'r un Lawrence Conway a oedd yn arwain swyddfa Rhodri Morgan ydyw? [Torri ar draws.] Ie? A yw hynny'n gywir, Weinidog?
Gallwch ofyn sawl cwestiwn neu gallwch ofyn un. Os mai dyna'r unig un, cewch eistedd i lawr.
Nage, yn sicr. Rwy'n credu ei fod wedi’i gadarnhau gan y Siambr ein bod yn sôn am yr un person. Yn wir, mae Chwaraeon Cymru yn drychineb arall ar thema gyson eich Llywodraeth, mewn gwirionedd. Mae gennym ni argyfwng na wnaethoch ei ragweld ac mae pethau wedi gwaethygu cymaint fel eich bod wedi gorfod cymryd camau dyrys yn hytrach na datrys pethau ar gam cynnar. Rwyf eisoes wedi codi anallu difrifol ar ran eich Llywodraeth yn gynharach, gwerth hyd at £53 miliwn. Rwyf wedi codi pryderon ynghylch honiadau gan Materion Cyhoeddus Cymru, lle mae eich Llywodraeth wedi pwyso ar sefydliadau gwirfoddol i'w hatal rhag dweud pethau nad ydyn nhw eisiau eu clywed. Y peth am Gymru yw bod chwaraeon yn rhan mor annatod o'n diwylliant. Felly, os yw’n ofynnol i chi gael un peth yn iawn yng Nghymru, chwaraeon yw hwnnw. Os edrychwch chi ar yr ail baragraff ar dudalen 2, rwy'n bryderus iawn am y diffyg tryloywder, a hoffwn gael sicrwydd gennych chi, rywbryd yn y dyfodol agos, y bydd popeth yn cael ei gyhoeddi. Efallai, os oes pethau na ellir eu cyhoeddi, y gellid eu golygu yn hytrach na’u cuddio yn gyfan gwbl.
Mae’n rhaid i mi godi, fel mater o bryder, hanes y cadeirydd, oherwydd, fel y soniais yn gynharach, mae'n ymddangos bod ganddo gysylltiadau cryf iawn â’r Blaid Lafur. Codwyd pryderon gan neb llai na’r cyn Ysgrifennydd Parhaol i Lywodraeth Cymru pan benodwyd Mr Conway yn gynghorydd arbennig i Aelodau Cabinet Llafur yn 2013, oherwydd nad yw gweision sifil yn newid yn aml rhwng swyddogaeth niwtral a swyddogaeth wleidyddol. I lawer ohonom, mae hon yn enghraifft arall o gerdyn y Blaid Lafur yn cael ei ddefnyddio fel y prif faen prawf i lenwi swydd yn y sector cyhoeddus. Y math hwn o nepotiaeth sy'n achosi problemau yn y lle cyntaf. Y cwestiwn cyntaf, Weinidog, yw: pam na wnaethoch chi ragweld hyn, a pham na wnaethoch chi ymyrryd cyn i’r argyfwng godi? Fel y dywedais yn gynharach, camau dyrys. Pam na allwch chi roi dyddiad i ni o ran pryd y bydd y trefniadau dros dro hyn yn dod i ben? Faint o gyflog y mae eich cadeirydd yn ei gael pan ei fod wedi ei atal dros dro, a faint fydd cost y bobl newydd i'r pwrs cyhoeddus? A pham na wnaethoch chi benodi unigolyn sy’n amlwg yn annibynnol i gadeirio'r sefydliad, yn hytrach na rhywun sydd â chysylltiadau Llafur mor agored eto? Gadewch i ni fod yn onest: mae cymaint o benodiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru lle ceir cysylltiadau gwleidyddol cwbl eglur. A yw Chwaraeon Cymru yn cyflawni ei swyddogaeth briodol? Mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn o gofio cyd-destun yr hyn y mae Materion Cyhoeddus Cymru wedi’i ddweud: pan luniodd y cadeirydd adroddiad—neu pan gyflwynodd adroddiad—a oedd yn dweud bod angen i’r sefydliad gael ei ailwampio’n helaeth, a wnaethoch chi saethu’r negesydd, neu a ydych chi wedi penodi rhywun a fydd yn cyhoeddi barn y blaid yn hytrach na chasgliad efallai nad ydych yn cytuno ag ef mewn gwirionedd nac yn ei fwynhau? Yn olaf, ac yn sicr nid yn lleiaf, beth am y 160 o aelodau staff a gyflogir? Nid yw eich datganiad yn cynnig unrhyw sicrwydd iddyn nhw, felly a fyddech cystal â rhoi rhywfaint o sicrwydd am hirhoedledd dyfodol y sefydliad a'u lle nhw ynddo?
Diolch i chi am y cwestiynau yna. Dechreuwn gyda'r hyn y gallwn ni gytuno arno, sef bod chwaraeon yn rhan annatod iawn o'n bywyd a'n diwylliant yma yng Nghymru. Mae Swyddogaeth Chwaraeon Cymru yn eithriadol o bwysig yn hynny o beth. Mae rhan gref o fy natganiad heddiw wedi ymwneud â phwysigrwydd y staff yn Chwaraeon Cymru a cheisio cynnig rhywfaint o sicrwydd iddynt, ac i fynegi fy niolch personol am y proffesiynoldeb maen nhw wedi ei ddangos ac am barhau i weithio gyda'r fath angerdd am chwaraeon yng Nghymru dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, sydd wedi bod yn anodd iddyn nhw, mi wn. Wrth i mi godi ar fy nhraed heddiw, aeth datganiad i holl staff Chwaraeon Cymru unwaith eto yn mynegi fy niolch iddynt.
Fe wnaethoch chi ofyn pryd y daeth y pryderon i'r amlwg yn gyntaf. Wel, fel y dywedais yn fy natganiad ym mis Tachwedd, daeth y pryderon hynny i'r amlwg ym mis Tachwedd. Ddydd Mawrth 22 Tachwedd, pasiwyd pleidlais unfrydol o ddiffyg hyder yn y cadeirydd gan y bwrdd, a chymerais gamau ar 23 Tachwedd, gyda chydsyniad llawn y cadeirydd a'r is-gadeirydd, i atal gweithgareddau’r bwrdd hyd y gellid cwblhau’r adolygiad o sicrwydd hwn. Roedd honno, fel y dywedais ar y pryd, yn weithred niwtral. Gweithredodd Llywodraeth Cymru yn gyflym yn fy marn i, pan godwyd y pryderon yn gyntaf.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr adolygiad o Chwaraeon Cymru yr oedd y cadeirydd yn ei gynnal. Nid oedd yr adolygiad o sicrwydd ei hun yn ystyried yr adolygiad yr oedd y cadeirydd yn ei gynnal nac effeithiolrwydd ehangach Chwaraeon Cymru fel sefydliad. Fodd bynnag, canfu’r adolygiad gefnogaeth eang i’r adolygiad yr oedd y cadeirydd yn ei gynnal. Fel y dywedais yn fy natganiad, rwyf i’n dymuno gweld yr adolygiad hwnnw yn cael ei gwblhau a'i adrodd i mi cyn gynted ag y bo modd, a hoffwn i un o aelodau'r panel annibynnol a oedd yn cynghori ar y gwaith hwnnw gwblhau’r gwaith hwnnw ar fy rhan.
O ran Lawrence Conway, rwy’n hynod ddiolchgar iddo am gamu i’r swydd hon ar gymaint o fyr rybudd a heb gost i'r pwrs cyhoeddus, mae’n rhaid i mi ddweud; mae'n gwneud hyn heb gydnabyddiaeth. Mae ei gymwysterau, yn fy marn i, yn llefaru drostynt eu hunain. Mae ganddo dros 40 mlynedd o brofiad mewn gwasanaethau cyhoeddus, â phrofiad penodol o'r rhyngwyneb rhwng y Llywodraeth a chyrff noddedig. Bydd yn helpu i lywio Chwaraeon Cymru drwy'r cyfnod anodd hwn. Ymunodd â'r gwasanaeth sifil ym 1968 a bu'n gweithio mewn amryw o swyddi drwy gydol ei yrfa yn y Swyddfa Gymreig, gan gynnwys secondiad i Gorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd yn y 1990au cynnar fel cynorthwy-ydd i'r prif weithredwr. Yn fwy diweddar, bu'n bennaeth yr is-adran yn y Swyddfa Gymreig a oedd yn gyfrifol am noddi nifer o gyrff hyd braich, gan gynnwys Awdurdod Datblygu Cymru, a chafodd ei benodi'n bennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet ac adran y Prif Weinidog wedi hynny ym 1998. Gwasanaethodd yn y swydd honno tan ei ymddeoliad yn 2010. Bydd yn sicr yn ymgymryd â'i swyddogaeth yng nghyd-destun egwyddorion Nolan, fel y byddem ni’n disgwyl i bawb yn y swyddi hyn ei wneud.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, ac a gaf i hefyd ddatgan fy mod i’n credu ei bod yn arbennig o bwysig i ddiolch i'r staff, sydd wedi bod trwy gyfnod anodd iawn? Mae llawer o bryderon wedi eu codi gan staff nad achoswyd ganddyn nhw, ac rwy'n credu y dylid talu teyrnged iddyn nhw drwy'r cyfnod anodd hwn. Mae'r sefydliad, fel corff a noddir gan y Llywodraeth, wedi ei gyhuddo o fod yn amharod i wrando, o fod â diffyg tryloywder ac o fod yn hen-ffasiwn o ran ei feddylfryd. Felly, gan eich bod wedi cael amser i fyfyrio erbyn hyn, a gaf i ofyn: a ydych chi’n credu eich bod wedi gweithredu yn ddigon cynnar ac ar yr adeg iawn, ac a oedd y gweithdrefnau llywodraethu cywir ar waith cyn i chi atal y bwrdd? A gaf i ofyn hefyd: a wnewch chi roi sicrwydd heddiw i'r Siambr eich bod o’r farn bod y gweithdrefnau llywodraethu cywir ar waith yn awr ac, yn wir, yn parhau?
A gaf i ofyn hefyd pryd yr ydych chi’n disgwyl i'r adolygiad gael ei gwblhau a'i wneud yn gyhoeddus? Hefyd, o ran adolygiad blaenorol y cadeirydd ar effeithiolrwydd Chwaraeon Cymru—nid oeddwn i’n hollol siŵr pan wnaethoch chi ateb cwestiwn yn flaenorol—a ydych chi’n bwriadu ymchwilio i'r materion strwythurol a nodwyd yno yn rhan o'ch adolygiad hollgynhwysol? Hoffwn gael rhywfaint o eglurhad ynglŷn â hynny.
Rydych chi wedi darparu cymwysterau Lawrence Conway yn eithaf manwl, felly diolch i chi am hynny, ond tybed a wnewch chi hefyd roi rhagor o wybodaeth i ni am John Taylor. Yn amlwg, mae yna dasg fawr i'w gwneud, ac mae eu gallu i gyflawni’r swyddogaethau, wrth gwrs, yn gwestiwn rwy’n credu bod angen i bob un ohonom gael sicrwydd arno, felly, ychydig mwy o wybodaeth am gymwysterau John Taylor, os gwelwch yn dda.
Ac yn olaf, a gaf i ofyn sut y mae'r busnes fel sefydliad wedi ei effeithio? Ac wrth ddweud hynny, rwy’n cyfeirio at weithrediad Chwaraeon Cymru o ddydd i ddydd, ond yn fwy hirdymor hefyd, yn enwedig o ran cynllunio ariannol. Fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad am wneud y newidiadau hyn yn awr ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd, ond a yw rhai o'r materion cyllido hynny o ran y flwyddyn ariannol newydd wedi'u heffeithio o ganlyniad i atal y bwrdd?
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna. O ran yr adolygiad, adolygiad llywodraethu yn benodol oedd hwnnw, felly ni wnaethom ofyn i'r adolygwyr archwilio’r materion ehangach hynny ynglŷn ag effeithiolrwydd y sefydliad ac ati. Roedd y rheini yn faterion a oedd yn cael eu hystyried yn yr adolygiad yr oedd y cadeirydd yn ei arwain, ac yn awr byddwn yn gofyn i aelod o'r panel a oedd yn cynghori ac yn helpu yn y gwaith hwnnw i fwrw ymlaen â hynny. Byddwn i’n disgwyl i'r gwaith hwnnw gael ei gwblhau yn ystod yr wythnosau nesaf—nid yw’n waith y byddwn i’n disgwyl iddo barhau am gyfnod hir. Rwyf i ar ddeall bod cryn dipyn o waith eisoes wedi ei wneud, ac edrychaf ymlaen at weld yr adolygiad hwnnw maes o law, ac, yn amlwg, byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am hynny.
O ran y drefn lywodraethu sydd gennym ar waith ar gyfer Chwaraeon Cymru, gallaf gadarnhau bod dogfen fframwaith ar waith. Mae llythyr cylch gwaith hefyd ar gael, ond rwy’n bwriadu dosbarthu llythyr cylch gwaith newydd i’r bwrdd yng ngoleuni’r sefyllfa bresennol. Mae cynllun busnes a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru ar waith yn y sefydliad, a chynhaliodd gwasanaeth archwilio mewnol Llywodraeth Cymru archwiliad ym mis Hydref 2015 a roddodd y sicrwydd rhesymol hwnnw bod y rheolaethau ar waith i sicrhau goruchwyliaeth effeithiol yn y sefydliad
O ran eich cwestiynau ynglŷn â rhagor o wybodaeth am John Taylor, wel, mae John Taylor wedi bod mewn amryw o swyddi, yn y sector cyhoeddus yn bennaf, cyn gwasanaethu fel prif weithredwr cyntaf ACAS am 12 mlynedd o 2001 ymlaen. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys bod yn brif weithredwr Bwrdd Datblygu Cymru Wledig a chyngor hyfforddiant a menter de-ddwyrain Cymru yn y 1990au. Yn fwy diweddar, bu’n ddirprwy gadeirydd Prifysgol Gorllewin Llundain, cadeirydd gwasanaeth gyrfaoedd Cymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, ac mae ar hyn o bryd yn gadeirydd y pwyllgor contractwyr mawr ar gyfer y diwydiant contractio trydanol. Felly, unwaith eto, rwy’n credu ei fod ef a Lawrence yn addas iawn i ymgymryd â’r trefniant dros dro hwn sydd gennym ar waith ar gyfer Chwaraeon Cymru. Unwaith eto, hoffwn innau adleisio'r sylwadau yr ydych wedi'u gwneud am broffesiynoldeb aelodau staff Chwaraeon Cymru wrth wneud eu gwaith yn y cyfnod diweddar, sydd, mi wn, wedi bod yn anodd iddyn nhw, ac i’ch sicrhau chi na fu unrhyw faterion polisi na chyllid y byddai'r bwrdd wedi gorfod ymdrin â hwy, ond mae yna bethau erbyn hyn y bydd yn rhaid i'r bwrdd ymdrin â nhw yn y dyfodol agos iawn, fel pennu’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ac amryw o faterion y bydd yn rhaid eu llofnodi yn ymwneud â chyrff llywodraethu cenedlaethol ac ati. Felly, mae digon o waith i’r bwrdd fynd yn ôl i’w wneud gan fod eu cyfrifoldebau wedi eu hadfer erbyn hyn.
Diolch, Weinidog, am eich datganiad. Mae’n ymddangos y bu problemau ar ben uchaf y sefydliad hwn yn ystod y misoedd diwethaf. Efallai y bydd y Gweinidog yn cofio bod y cadeirydd diwethaf, Laura McAllister, wedi aros yn ei swydd yn hwy na’r cyfnod a fwriadwyd oherwydd bod Llywodraeth Cymru o’r farn na ellid dod o hyd i olynydd addas ar y pryd. Yna daethoch o hyd i Paul Thomas, ond mae'n ymddangos ei fod yn fuan wedi dechrau anghydweld a gweddill y bwrdd. Nawr, nid wyf yn honni fy mod i’n gwybod y rhesymau dros hyn, ond rwy’n gobeithio y cawn ni adroddiad llawn ar hyn, ac, yn bwysicach, y bydd y bwrdd yn dychwelyd yn fuan i weithrediad llawn unwaith eto.
Mae Chwaraeon Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni llawer o dargedau Llywodraeth Cymru mewn meysydd pwysig, a allai o bosibl gynyddu gweithgarwch corfforol a mynd i'r afael â'r broblem enfawr o ordewdra. Felly, dyma sy’n hollbwysig: bod Chwaraeon Cymru yn cyflawni ei gylch gwaith, er gwaethaf unrhyw helbulon yn yr ystafell fwrdd neu wleidyddiaeth fewnol. Felly, gan adleisio yr hyn ofynnodd Russell George i chi yn gynharach, tybed a wnewch chi ymhelaethu rhywfaint ar sut y mae'r sefydliad wedi bod yn perfformio heb arweiniad y bwrdd yn ystod yr wythnosau diwethaf. Sut y mae wedi bod yn cyflawni ei swyddogaethau o ddydd i ddydd? Gwn eich bod wedi dweud nad yw pennu'r gyllideb wedi ei effeithio, sy'n dda i’w glywed, ond a wnewch chi daflu goleuni ar, neu roi rhyw sicrwydd i ni, yn hytrach, nad yw’r perfformiad wedi ei effeithio'n andwyol gan ddigwyddiadau diweddar? Diolch.
Diolch i chi am y cwestiynau yna, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i roi’r sicrwydd hwnnw i chi nad yw perfformiad wedi ei effeithio, a bod swyddogaethau Chwaraeon Cymru o ddydd i ddydd wedi parhau yn ddi-dor drwy gydol y sefyllfa. Unwaith eto, mae hyn o ganlyniad i waith y staff sydd wedi bod yn gwneud hynny. Rwy'n falch iawn eich bod yn cydnabod y swyddogaeth sydd gan Chwaraeon Cymru, a'r potensial sydd gan Chwaraeon Gymru, am gynifer o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys yr agenda gweithgarwch corfforol hefyd, oherwydd bod gan Chwaraeon Cymru botensial anhygoel i gael effaith enfawr ar chwaraeon elit a chwaraeon llawr gwlad, yn ogystal â gweithgarwch corfforol hefyd. Gwn ei fod yn gwneud gwaith da, ac edrychaf ymlaen at weithio'n agos â'r bwrdd wrth inni symud ymlaen.
Diolch i’r Gweinidog.