– Senedd Cymru am 5:02 pm ar 14 Chwefror 2017.
Rŷm ni’n symud yn awr at yr eitem nesaf ar ein hagenda ni, sef Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017. Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i wneud y cynnig—Kirsty Williams.
Cynnig NDM6234 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2017
Diolch i chi, Lywydd. A gaf i fanteisio ar gyfle byr i amlinellu bod y Gorchymyn yn nodi swyddogaethau Cyngor y Gweithlu Addysg o ran achredu rhaglenni addysg cychwynnol i athrawon yng Nghymru drwy achrediad y pwyllgor hyfforddiant athrawon cychwynnol. Nodir ei gylch gwaith mewn rheoliadau a gyflwynir gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn amodol ar gymeradwyaeth y Gorchymyn hwn heddiw.
Bydd amseriad trosglwyddo’r swyddogaethau hyn i'r cyngor yn cydfynd â’r cynlluniau gweithredu ar gyfer y cwricwlwm newydd yn ystod y tair i bum mlynedd nesaf. Fodd bynnag, bydd angen i’r trefniadau ar gyfer achredu darpariaeth hyfforddiant cychwynnol i athrawon fod ar waith erbyn hydref 2017 fan bellaf, er mwyn sicrhau bod yr holl gyrsiau HCA newydd a ddarperir o fis Medi 2019 wedi’u hachredu yn erbyn meini prawf achredu newydd.
Yn 2015, rhoddwyd i’r grŵp achredu addysg athrawon, dan gadeiryddiaeth yr Athro Furlong, y dasg o ddatblygu'r meini prawf newydd ar gyfer achredu rhaglenni HCA yng Nghymru. Nod y meini prawf newydd yw gwella ansawdd a chysondeb y ddarpariaeth a chyflwyno dull newydd o gyflwyno HCA yn ein gwlad.
Yn ganolog i’r weledigaeth sy'n sail i’r meini prawf newydd ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon mae’r gydnabyddiaeth bod hyfforddiant ac addysg proffesiynol o ansawdd uchel o reidrwydd yn cynnwys nifer o wahanol ddulliau dysgu. Gall rhai dimensiynau addysgu gael eu dysgu drwy brofiad yn unig, a cheir mathau eraill o ddysgu sydd â sail ddeallusol iddynt. Fodd bynnag, dylai'r rhan fwyaf o holl hyfforddiant ac addysg athrawon fod yn seiliedig ar ddysgu sy’n hollol ymarferol ac yn her ddeallusol.
Rwyf i’n awyddus i annog dull partneriaeth o gynllunio rhaglenni HCA yn y dyfodol, wrth i sefydliadau addysg uwch gydweithredu’n agos â nifer o ysgolion partneriaeth arweiniol. Er mwyn cyflawni hyfforddiant ac addysg sy’n wirioneddol gydweithredol i athrawon, mae’n rhaid i Sefydliadau Addysg Uwch weithio gydag ysgolion partner i gymryd cyfrifoldeb ar y cyd am y cyfraniad i'r rhaglen.
Hefyd, Lywydd, rwy’n falch o gyhoeddi cyfle prin o ran y ffaith bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd—yr OECD—wedi cynnig ei wasanaethau fel arweinwyr nodedig ym myd addysg i weithio gyda'n partneriaid HCA trwy ddatblygu dull o gyflwyno HCA yng Nghymru sy'n seiliedig ar theori. Caiff hyn ei gyflawni drwy gyfrwng gweithdy rhyngwladol a gynhelir yn y gwanwyn, pan fydd fframwaith HCA yn cael ei gynllunio, gyda'r nod o feithrin gallu a chyfres wirioneddol unigryw o raglenni addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru.
Yn olaf, bydd yr Aelodau yn nodi y bydd y cyngor yn gallu codi ffi am ddarparu'r gwasanaeth achredu, a fydd yn destun ymgynghoriad ar wahân ganddyn nhw. Byddwn i’n disgwyl i strwythur ffioedd fod ar waith erbyn 1 Medi 2018.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—Huw Irranca-Davies.
Diolch, Lywydd. Croesawaf y cyfle i siarad yn fyr iawn ar y Gorchymyn hwn—ar bwynt bach, ond pwynt pwysig yn fy marn i—ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Nododd ein hadroddiad i'r Cynulliad un pwynt o ddiddordeb—roedd yn bwynt teilwng—yn ymwneud â dibyniaeth y Gorchymyn hwn ar gyfres o reoliadau sydd eto i’w cyflwyno i Weinidogion Cymru ac eto i'w craffu gan ein pwyllgor. Felly, yn y bôn, mae'r meini prawf ar gyfer achredu hyfforddiant cychwynnol athrawon, fel y’u disgrifiwyd yn awr gan Ysgrifennydd y Cabinet, y cyfeirir atyn nhw yn erthyglau 2 a 3 o'r Gorchymyn, yn cael eu cynnwys mewn rheoliadau ar wahân os caiff y Gorchymyn ei gymeradwyo heddiw. Nawr, er bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen am y rheoliadau hyn yn ei memorandwm esboniadol ac fel y nodir heddiw, mae’n bwysig, er hynny, ein bod yn tynnu sylw'r Cynulliad at y ddibyniaeth hon. Rydym ni wedi cael cadarnhad gan Lywodraeth Cymru bod y rheoliadau hyn yn agos iawn at gael eu gosod. Serch hynny, byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Gweinidog esbonio yn syml heddiw pam na allai'r ddau offeryn gael eu gosod gyda’i gilydd a’u hystyried fel pecyn. Fel pwynt terfynol, rydym yn cydnabod y gall y math hwn o sefyllfa ddigwydd o bryd i'w gilydd. Nid yw'n unigryw. Ond, rydym yn dymuno rhoi ar gofnod ein bwriad i fonitro'r sefyllfaoedd hyn yn eithaf agos ac adrodd yn unol â hynny er budd deddfu da, effeithlon a thryloyw.
Ni fydd Plaid Cymru yn gwrthwynebu’r rheoliadau hyn—[Torri ar draws.] Ni fyddwn yn gwrthwynebu'r rheoliadau hyn, er eglurder, heddiw. Ond rwy’n credu ei bod yn bwysig efallai ein bod yn ystyried rhai o'r pryderon a godwyd, yn bennaf gan undebau athrawon, ond hefyd gan eraill yn y sector hwn, ynghylch cyfansoddiad y Cyngor Gweithlu Addysg. Nawr, yn amlwg, ar hyn o bryd mae’n cynnwys pobl a benodir gan Weinidogion, ond gwyddom am fodelau eraill lle mae’r sector yn ethol ei aelodau. Mae un darn o ohebiaeth a gefais yn cyfeirio at Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban, lle rwy’n credu bod oddeutu 19 o aelodau'r bwrdd yno wedi’u hethol. Nawr, wrth i gyfrifoldebau a chylch gwaith y Cyngor Gweithlu Addysg gael eu hymestyn, fel y maen nhw yn awr, wrth gwrs, drwy’r rheoliadau hyn, bydd sicrhau ei fod yn adlewyrchu'r sector y mae'n ei reoli yn bwysicach fyth o ran ei allu i wneud ei waith, ond hefyd o ran cael hyder y sector. Felly, roeddwn i eisiau holi Ysgrifennydd y Cabinet a oedd hi’n cadw meddwl agored i'r math hwnnw o ddatblygiad ac, os felly, pryd oedd hi'n meddwl y dylem ni edrych ar hynny eto, fel y gallwn wneud yn siŵr bod rhai o’r safbwyntiau a gyflwynir i ni fel Aelodau o ran y rheoliadau hyn mewn gwirionedd yn rhai yr ydym yn eu hystyried ac yn eu derbyn.
A gaf i roi ar gofnod y byddwn ni hefyd yn cefnogi’r rheoliadau hyn, er gwaethaf amheuon y pwyllgor materion deddfwriaethol o ran y rheoliadau ychwanegol sydd eto i’w cyhoeddi i’w craffu? Un peth, fodd bynnag, sy’n fy mhoeni i ryw ychydig yw bod, o fewn cylch gwaith y Cyngor Gweithlu Addysg hefyd, yn amlwg, gyfrifoldebau ar gyfer darlithwyr addysg bellach, er enghraifft. Tybed pam nad yw rheoliadau sy’n ymwneud â TAR a hyfforddiant cychwynnol ar gyfer darlithwyr addysg bellach yn cael eu gosod heddiw. Yn ogystal â hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Cyngor Gweithlu Addysg hwn hefyd yn gyfrifol erbyn hyn am weithwyr ieuenctid a llu o weithwyr proffesiynol eraill. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ehangu cyfrifoldebau'r Cyngor Gweithlu Addysg i ganiatáu iddyn nhw, mewn gwirionedd, osod y safonau proffesiynol, yn yr un modd y mae sefydliadau tebyg yn ei wneud mewn mannau eraill ledled y DU ac, yn wir, ledled y byd. Pam mae Llywodraeth Cymru o’r farn ei bod y sefydliad sy'n gyfrifol am osod y safonau proffesiynol hynny, yn hytrach na'r corff y bydd yn rhaid i bobl gofrestru gydag ef? Tybed a wnewch chi ddweud wrthym am eich sefyllfa hyd yn hyn o ran gosod safonau proffesiynol newydd i’r gweithlu addysgu, i ddarlithwyr AB ac i weithwyr ieuenctid, gan fod hynny hefyd o fewn eu cylch gwaith nhw erbyn hyn. Mae pawb yn awyddus i chi, fel Llywodraeth Cymru, sicrhau bod hyn yn symud yn gyflym. Mae’n rhaid imi ddweud, rwy’n credu pe byddai’r rhain wedi bod yn gyfrifoldeb y Cyngor Gweithlu Addysg, y bydden nhw wedi eu cyhoeddi amser maith yn ôl.
Nodais â diddordeb eich cyhoeddiad yn eich sylwadau agoriadol am y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a'r gwaith y byddan nhw’n ei wneud i geisio gwella hyfforddiant cychwynnol athrawon yma yng Nghymru. Rwy'n falch iawn o glywed eu bod yn cymryd rhan, a gobeithio y bydd yn ychwanegu rhywfaint o werth at yr hyn sydd eisoes ar waith. A wnewch chi ddweud wrthym pryd yr ydych yn disgwyl rhyw fath o ganlyniad o'r gweithdy? Rwy'n credu mai gweithdy yn unig a gyhoeddwyd gennych. A fydd unrhyw beth arall ar ben hynny? A fydd hyn yn waith parhaus gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, neu a ydych yn gobeithio cael rhywbeth allan o’r gweithdy syml hwnnw yn unig? Diolch.
Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb i’r ddadl.
Diolch i chi, Lywydd. A gaf i ddweud fy mod i’n falch iawn o glywed y bydd Plaid Cymru a'r Blaid Geidwadol yn cefnogi'r Gorchymyn heddiw? Mae hynny yn unol â'r mwyafrif helaeth o'r ymatebion y cafodd y Llywodraeth i’r ymgynghoriad arno. Mae dros 80 y cant o'r rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad o’r farn mai’r Cyngor Gweithlu Addysg ddylai achredu hyfforddiant athrawon wrth i ni symud ymlaen yn ein diwygiadau i hyfforddiant cychwynnol athrawon.
Os caf i droi at y pwynt a godwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, dim ond er mwyn rhoi sicrwydd iddo fod fy swyddogion i wedi rhoi copi o'r meini prawf achredu yn llyfrgell yr Aelodau i'w hystyried. Hefyd, mae paragraff 1.1 o'r memorandwm esboniadol yn glir y byddai'r rheoliadau yn dilyn, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cynulliad o’r Gorchymyn yr ydym yn ei drafod heddiw, ac, fel yr ydych wedi clywed gan swyddogion, mae hynny ar fin digwydd. Defnyddiwyd y dull hwn er mwyn sicrhau nad ydym yn rhagdybio ewyllys y Cynulliad Cenedlaethol drwy achub y blaen ar unrhyw benderfyniad i roi i’r cyngor swyddogaethau achredu’r rhaglen astudio hyfforddiant cychwynnol athrawon. Hefyd, os bydd y Cynulliad yn penderfynu drwy bleidlais na ddylai'r cyngor fod wedi cael y pwerau a nodir yn y Gorchymyn hwn, byddai'r rheoliadau sy'n nodi gofynion y cyngor i sefydlu achrediad y pwyllgor hyfforddiant cychwynnol athrawon yn ddiangen. Mae'n fater o amseru, ac rydym yn disgwyl y bydd craffu llawn o'r rheoliadau a gaiff eu cyflwyno.
Ar hyn o bryd, nid oes gennyf unrhyw fwriad i newid sut y mae’r Cyngor Gweithlu Addysg yn cael ei gyfansoddi, ond, fel y gwyddoch, Llŷr, mae swyddogaeth a chyfrifoldebau'r Cyngor Gweithlu Addysg yn datblygu. Mae'n sefydliad newydd ac rydym o hyd yn edrych i weld beth fydd y dyfodol yn ei gynnig. Felly, wrth i bethau ddatblygu, efallai y daw cyfle i edrych i weld a yw'r corff wedi ei gyfansoddi mewn ffordd sy'n adlewyrchu'n llawn ei holl swyddogaethau a chyfrifoldebau. I fod yn glir, byddai’r Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor Gweithlu Addysg sefydlu pwyllgor hyfforddi athrawon o dan y rheini, a byddwn i’n disgwyl i hynny gynnwys ystod eang o gynrychiolwyr a all ychwanegu gwerth gwirioneddol, a sicrhau bod y broses achredu yn gadarn, a byddwn i’n disgwyl aelodaeth eang o hynny.
A gaf i sicrhau Darren Millar y bydd y safonau proffesiynol ar gyfer athrawon ac arweinwyr ysgolion yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn y gwanwyn? Gallaf eich sicrhau eu bod wedi eu llunio mewn cydweithrediad llawn â'r proffesiwn addysgu ei hun—nid â’r Cyngor Gweithlu Addysg, ond gydag athrawon. Maen nhw’n cael eu treialu ar hyn o bryd mewn rhai ysgolion i gael adborth arnyn nhw, ac rydym ni’n gwneud cynnydd yn hynny o beth. Ildiaf.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am ildio, Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn ddiolchgar iawn am eglurhad o’r amserlen ar gyfer eu cyhoeddi nhw. Ond a ydych chi’n derbyn ei bod yn anarferol iawn nad yw sefydliad fel y Cyngor Gweithlu Addysg yn gyfrifol am ddatblygu’r safonau hynny, a'i bod yn anarferol mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol amdanynt? Pam hynny? Beth yw'r ddadl dros gadw'r cyfrifoldebau hynny gyda Llywodraeth Cymru, yn hytrach na'u rhoi i'r Cyngor Gweithlu Addysg, fel y corff priodol, i ddatblygu’r pethau hyn?
Wel, Darren, rwy’n credu ein bod mewn sefyllfa dda i allu gweithio gyda'r proffesiwn i sefydlu cyfres o safonau proffesiynol. Nid wyf yn credu eu bod wedi eu cynhyrchu mor gyflym ag y dylent, efallai. Roedd yn un o’r ymrwymiadau yn adroddiad Furlong i edrych ar y materion hyn, ac yn rhan o gyhoeddiadau blaenorol, ond rydym ni’n gwneud cynnydd cyflym erbyn hyn, ac, fel y dywedais, rydym wedi eu datblygu mewn cydweithrediad agos â'r proffesiwn ei hun. Maen nhw wedi cael eu profi mewn ysgolion a'u mireinio yn sgil hynny, a byddan nhw’n cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn.
Lywydd, rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth yr Aelodau i'r egwyddorion sydd wedi'u cynnwys yn y Gorchymyn.
Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, fe’i dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.