Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 14 Chwefror 2017.
Diolch i chi eto, Lywydd, am y cyfle i siarad ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am graffu ar y memorandwm dechreuol ac atodol. Hefyd, hoffwn ddatgan fy ngwerthfawrogiad o’r ymgysylltiad gan Brifysgolion Cymru, UCM Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ynglŷn â'r pwnc hwn.
Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil i Dŷ'r Cyffredin ar 19 Mai 2016. Cafodd y Bil ei drosglwyddo wedyn i Dŷ'r Arglwyddi lle y pasiodd ei Ail Ddarlleniad ar 6 Rhagfyr, cyn mynd ymlaen i’r Cyfnod Pwyllgor, lle y bu yn destun cryn ddadlau. Mae addysg uwch yn bwnc sydd wedi ei ddatganoli. Er hynny, mae’n anochel fod goblygiadau i Gymru yn sgil y newid deddfwriaethol a gynigir gan Lywodraeth y DU yn y maes hwn. Wrth geisio darpariaeth yn y Bil hwn, fy mlaenoriaeth i yw sicrhau nad yw myfyrwyr a sefydliadau yng Nghymru dan anfantais. Rwyf o'r farn y dylid gwneud darpariaeth gyfyngedig ar gyfer Cymru ynglŷn â'r materion a nodir yn y ddau femorandwm y mae angen cael cydsyniad y Cynulliad ar eu cyfer.
Rwy'n falch o allu nodi na chododd y pwyllgor craffu unrhyw wrthwynebiad i gytundeb ar y cynnig ac nid oes ganddo unrhyw bryderon am yr agwedd a gymerir. Adroddodd y pwyllgor fod nifer o bryderon wedi eu codi mewn ymatebion i'r ymgynghoriad. Fodd bynnag, daeth y pwyllgor i'r casgliad nad oedd yr ymgynghoriad yn codi unrhyw fater sy'n effeithio ar ba un a ddylai’r polisïau a geir yn y darpariaethau perthnasol gael eu hymestyn i Gymru.
Hoffwn ymateb i ddau beth sy’n achos pryder, sef y fframwaith rhagoriaeth addysgu, neu’r TEF, fel y’i gelwir erbyn hyn, a'r rhyngweithio gyda ffioedd dysgu yng Nghymru. Rwyf nid yn unig yn eu cydnabod ond rwyf hefyd yn rhannu rhai o'r pryderon o ran cynigion y TEF. Nid dyma’r meini prawf y byddai’r Llywodraeth Cymru hon yn eu cyflwyno gan nad ydym, a siarad yn blaen, yn rhannu'r un agenda marchnadeiddio a’r hyn sydd ganddyn nhw dros y ffin. Er hynny, mae’n rhaid i ni ymdrin â’r gwirioneddau yr ydym yn eu hwynebu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i lwyddiant ein sefydliadau addysg uwch yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac felly nid ydym yn dymuno i sefydliadau Cymru fod o dan anfantais o’u cymharu â'r rhai yng ngweddill y DU. Mae'r ddarpariaeth a geisir yn y Bil yn hwyluso, a bydd yn rhoi'r gallu i Weinidogion Cymru ddarparu neu ddirymu eu cydsyniad i sefydliadau yng Nghymru i fod yn rhan o’r TEF yn y dyfodol. Ond gadewch i mi fod yn gwbl glir: ni fydd ffioedd dysgu yng Nghymru yn cael eu cysylltu â graddfeydd y TEF, ac yr wyf wedi ei gwneud hi’n glir i Lywodraeth y DU nad wyf eisiau gweld y gallu i recriwtio myfyrwyr rhyngwladol gael ei gysylltu â’r TEF ychwaith.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bennu lefelau ffioedd dysgu yn ôl ei meini prawf ei hun, gan ystyried sefydlogrwydd ariannol, sut yr ydym yn cynnal ein hysbryd cystadleuol rhyngwladol, a'r effaith ar fyfyrwyr. Credaf y bydd y cynigion yn caniatáu i ni gadw ein hagwedd arbennig at addysg uwch gan sicrhau nad yw sefydliadau yng Nghymru, y myfyrwyr sy'n astudio ynddyn nhw a gallu Gweinidogion Cymru i ymdrin â goblygiadau diwygiadau Llywodraeth y DU yn cael eu heffeithio'n anffafriol. Ac felly, Lywydd, gofynnaf i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol.