8. 7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 14 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:19, 14 Chwefror 2017

A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei sylwadau agoriadol, llawer ohonyn nhw y byddwn i’n cytuno yn llwyr â nhw, yn enwedig o safbwynt y TEF? Rydw i’n croesawu’r neges glir ynglŷn â’r cyfeiriad yr ydych chi’n bwriadu symud iddo ar y mater yma. Yn wir, mae yna lawer yn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma na fyddwn i, yn sicr, yn ei wrthwynebu. Ond mae yna gwestiwn cynyddol yn codi yn fy meddwl i ynglŷn â’r effaith posibl i ymchwil yng Nghymru yn sgil y Bil arfaethedig yn San Steffan. Rŷm ni’n gwybod pa mor bwysig yw ffynonellau ariannu’r cynghorau ymchwil i sefydliadau addysg yng Nghymru. Rŷm ni’n gwybod am BBSRC, sy’n ariannu yn sylweddol ein IBERS, rŷm ni’n gwybod am NERC, wrth gwrs, yn ariannu ym Mangor, ac mae yna enghreifftiau eraill ar draws Cymru. Rwyf i, yn y cyfnod diwethaf yma, wedi dod yn fwyfwy ymwybodol bod unrhyw ddatblygiadau a allai beryglu'r ffynonellau ariannu hynny yn rhai y dylem ni fel Cynulliad warchod yn eu herbyn nhw.

Mae’n rhaid gofyn y cwestiwn wrth edrych ar y Bil arfaethedig: ble fydd llais Cymru yn y corff arfaethedig, UKRI? Nid oes sicrwydd o gwbl y bydd gan Gymru lais ystyrlon o fewn y corff hwnnw. Yn wir, os edrychwn ni ar un o’r gwelliannau a gafodd eu pasio i’r Bil yn San Steffan, mae’n sôn y dylai Gweinidogion San Steffan ystyried a fyddai’n ddymunol i un o’r gwledydd datganoledig gael eu cynrychioli. Hynny yw, ‘have regard to the desirability of’, yw’r term. Wel, does bosib y dylem ni fod yn mynnu ei bod hi’n rheidrwydd bod gan bob un o’r gwledydd datganoledig lais ar UKRI? Yn wir, mae’r Bil yn dweud bod yn rhaid cael cynrychiolydd myfyrwyr mewn rhai o’r cyd-destunau yma, felly pam ddim rhoi'r un statws i lais Cymru yn y broses yma?

Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, fel nifer o bobl i fod yn deg, yn gyson dros y blynyddoedd wedi tynnu sylw at y ffaith bod Cymru yn cael ei thanariannu o safbwynt ymchwil. Mae perygl, rwy’n meddwl, nawr y gallai’r sefyllfa annerbyniol fel y mae hi fynd hyn yn oed yn waeth.

Mae’r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru ddarparu cefnogaeth i ymchwil, gan gynnwys grantiau ac yn y blaen. Ac rwyf jest yn gofyn i fy hunan: beth yw’r bwriad fan hyn? Achos ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ariannu, trwy HEFCW, llawer o’r ymchwil yma, neu o leiaf mae’n rhan o’r mecanwaith cefnogaeth ddeuol, y ‘dual Support mechanism’, yr ariannu craidd yma sy’n rhoi isadeiledd i brifysgolion allu wedyn cystadlu am lawer o ariannu gan y cynghorau ymchwil ac eraill.

Mae’r mecanwaith hwnnw yn un sy’n rhoi llawer o hyblygrwydd i’r sector addysg uwch pan mae’n dod i ymchwil. Yn wir, roedd Syr Ian Diamond yn amlygu llawer o hyn yn y gwaith a wnaeth e yn ddiweddar. Ond mae yna risg, rwy’n meddwl, nawr y gallem ni weld sefyllfa lle mae Gweinidogion San Steffan yn dweud, ‘Os nad ydych chi’n hapus, fe all Gweinidogion Cymru ariannu ymchwil yn uniongyrchol eu hunain.’ Mae hynny’n risg, rwy’n meddwl, na ddylem ni adael ein hunain yn agored iddo fe. Felly, rwy’n teimlo y dylai fod elfen o ‘ring-fence-o’ ariannu. Rwy’n siŵr y byddai nifer yn cytuno â hynny, o safbwynt ymchwil i Gymru. Ond, yn sicr, rwy’n meddwl y dylai fod Cymru â llais cryfach na’r hyn sy’n cael ei gynnig yn y Bil arfaethedig. Fe gyfeirioch chi at dystiolaeth gan gyrff eraill fel rhan o’r broses yma. Mae Prifysgolion Cymru yn un corff sydd wedi amlygu consýrn gwirioneddol ynglŷn â hyn. Mae HEFCW hefyd wedi mynegi consýrn ynglŷn â lle gallai hyn fod yn mynd â ni.

Felly, mae yna lawer, fel roeddwn yn dweud, na fyddem yn gwrthwynebu, ond yn anffodus nid ydym yn gallu diwygio na chynnig gwelliannau i gynnig cydsyniad deddfwriaethol. Felly, mi fyddwn ni, fel plaid, yn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma’r prynhawn yma.