Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 14 Chwefror 2017.
Rwy’n syml iawn yn codi i gefnogi ac ategu’r hyn mae Llyr Gruffydd newydd ei ddweud. Rwyf wedi bod yn bryderus yn ystod yr wythnosau diwethaf fwyfwy ynglŷn â gwaith y corff ymchwil ac arloesi'r Deyrnas Gyfunol—UKRI. Rwyf wedi gofyn sawl cwestiwn, ond yn anffodus ddim wedi cyrraedd ar y rhestr i ofyn y cwestiwn ar lafar eto. Ond fe ges i ateb ysgrifenedig i’r cwestiwn roeddwn wedi gobeithio gofyn i’r Prif Weinidog heddiw. Mae’r ateb yn dweud bod y Llywodraeth a Kirsty Williams fel Ysgrifennydd Cabinet wedi cwrdd â’r prif gynghorydd gwyddonol a’r Gweinidog cyfrifol yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud cais i Gymru gael ei chynrychioli’n llawn ar fwrdd ymchwil ac arloesi’r Deyrnas Gyfunol. Rwy’n cymryd bod hynny wedi digwydd. Wrth gwrs, mae’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd ger ein bron heddiw yn dweud yn glir—neu mae’r cyd-destun yn dweud yn glir, fel mae Llyr newydd amlinellu—nad yw Cymru yn cael ei chynrychioli’n llawn ar y bwrdd yna. Felly, mae’r Llywodraeth wedi gwneud cais—dyma bolisi’r Llywodraeth—ac wedi methu cyflawni eu cais a’u polisi, maen nhw’n dod i’r Cynulliad i gymeradwyo’r polisi nad ydyn nhw wedi’i gyflawni. Nid yw hynny’n ddigon da yn y cyd-destun sydd ohoni achos mae yna fygythiadau go iawn i Gymru, i gynghorau ymchwil ac i arian ymchwil mewn prifysgolion o sefydlu UKRI.
Dyma beth sy’n digwydd: mae’r holl gynghorau ymchwil yn cael eu casglu ynghyd mewn un corff. Mae arian ymchwil HEFCE, y corff cyllido addysg uwch yn Lloegr, yn cael ei roi yn y pot yna hefyd, ac arian arloesedd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol parthed Lloegr. Felly, yn lle bod gyda chi gyrff ymchwil sy’n edrych ar draws y Deyrnas Gyfunol—ac mae yna broblemau gyda’r rheini, beth bynnag, fel roedd Llyr wedi amlinellu—mae gyda chi gorff newydd nawr sydd wedi’i ddominyddu’n fwy gan fuddiannau a diddordebau y sector prifysgolion yn Lloegr ac sydd hefyd o dan ddylanwad mwy y Gweinidogion yn Lloegr hefyd, heb unrhyw gynrychiolaeth uniongyrchol gan Gymru ar y corff hwnnw. Ac mae’r ateb y cefais i gan y Prif Weinidog i fy nghwestiwn heddiw yn mynd ymlaen i ddweud ymhellach mai dim ond yn ddiweddar iawn y dechreuwyd trafodaethau gyda phrifysgolion ynghylch cyswllt â’r corff. Wel, eto, nid yw’n ddigon da. Nid ydym yn deall sut y mae’r corff yma’n mynd i weithio, yr effaith y bydd yn ei gael ar gyllido ymchwil yng Nghymru ac, am y rhesymau hynny’n unig, mi fyddwn ni’n gwrthwynebu’r cydsyniad deddfwriaethol heddiw.
A gaf i roi, i gloi, un enghraifft benodol? Rydw i’n ymwybodol iawn o’r gwaith, wrth gwrs, sy’n digwydd yn IBERS yn Aberystwyth, gan fy mod i’n byw yn Aberystwyth ac yn cynrychioli’r rhanbarth. Ers rhai blynyddoedd bellach mae IBERS wedi bod mewn cydgysylltiad strategol gyda’r BBSRC—Biotechnology and Biological Sciences Research Council—ar gyfer gwariant sydd werth £4.5 miliwn y flwyddyn yn Aberystwyth, yn strategol, i gefnogi gwaith IBERS. Os oes newid o ran blaenoriaethu'r cynghorau ymchwil oherwydd bod cyfyngu ar yr arian sydd ar gael ac oherwydd bod newid o ran blaenoriaethau achos bod Gweinidogion Lloegr nawr yn dechrau ymyrryd mwy yn y broses a phenderfyniadau ar flaenoriaethau, mi fyddwn ni’n colli arian sylweddol iawn i Aberystwyth. Nid wy’n fodlon gweld hynny’n digwydd heb fod yna sicrwydd pendant o neilltuo—‘ring-fencing’, felly—yr arian ymchwil sydd gennym ni eisoes. Nid yw hynny’n rhan o’r cytundeb sydd y tu ôl i’r cydsyniad deddfwriaethol, ac nid oes ychwaith sicrwydd bod cynrychiolaeth o Gymru ar y bwrdd sy’n gwneud y penderfyniad yma. Ac, wrth gwrs, wrth inni ddelio â Brexit, ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, bydd y gwaith sy’n digwydd yn IBERS, sy’n edrych ar borfa ac sy’n edrych ar y math o amaeth sy’n bwysig inni yng Nghymru ond nad yw mor bwysig yng nghyd-destun—mae’n bwysig yn y cyd-destun rhyngwladol, ond nid mor bwysig yn y cyd-destun Prydeinig, efallai, rydw i’n ofni y bydd yn cael llai o flaenoriaeth yn y cyd-destun yna. Rwy’n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael ei rhybuddio am y gofidion sydd gan nifer ohonom ni sy’n cynrychioli Ceredigion ac Aberystwyth am y problemau hyn. Rŷm ni’n moyn sicrwydd bod yr arian ymchwil yn parhau, ac rŷm ni’n moyn sicrwydd bod cynrychiolaeth o Gymru ar y corff newydd; heb y sicrwydd yna, ni fedrwn ni gefnogi’r cydsyniad deddfwriaethol.