Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 14 Chwefror 2017.
Diolch, Lywydd. Rwy’n croesawu'n fawr y cyfle i ni drafod y potensial ar gyfer morlynnoedd llanw yn y DU yn dilyn cyhoeddiad diweddar adroddiad Hendry. Er ein bod yn cefnogi egwyddor morlynnoedd llanw yng Nghymru, rydym yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, o'r ystyriaethau a’r cymeradwyaethau allweddol y mae'n rhaid eu rhoi i unrhyw brosiect arfaethedig, gan gynnwys ystyriaethau amgylcheddol llawn drwy'r broses trwyddedu morol ynghyd â chael prydles gan Ystâd y Goron. Felly, bydd yr Aelodau, rwy'n siŵr, yn deall bod hynny’n cyfyngu ar yr hyn y gallaf ei ddweud am brosiectau neu gynigion penodol, gan gynnwys y morlyn llanw arfaethedig ar gyfer bae Abertawe, o ystyried fy swyddogaeth statudol o dan y drefn trwyddedu morol a phrosesau statudol eraill.
Fel y nododd y Prif Weinidog yn ystod ei gwestiynau ar 31 Ionawr, rydym yn croesawu adroddiad Hendry a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy'n cefnogi'r achos dros ddatblygu diwydiant ynni morlynnoedd llanw yn y DU, a'r gydnabyddiaeth benodol y mae'n ei rhoi i’r prosiectau yng Nghymru sydd eisoes yn cael eu datblygu o amgylch arfordir Cymru. Ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, a fydd yn cau'r ddadl hon, cefais gyfarfod cadarnhaol ar 25 Ionawr gyda Charles Hendry, pryd y buom yn trafod canfyddiadau ei adroddiad, gan gynnwys materion fel strwythur cyllido, y cynnig ar gyfer prosiect braenaru, y cysylltiadau â datblygiadau ynni eraill a datgomisiynu.
Ar 6 Rhagfyr amlinellais fy mlaenoriaethau ar gyfer ynni, ac un ohonynt yw sbarduno'r gwaith o drawsnewid i ynni carbon-isel i sicrhau’r manteision mwyaf posibl i Gymru. Mae morlynnoedd llanw yn rhoi cyfle clir i gyfrannu tuag at y nod hwn. Mae Cymru mewn sefyllfa dda i fanteisio ar gyfleoedd ynni llanw; mae gennym amrediad llanw uchel a gallai llawer o'n 1,200 cilometr o arfordir fod yn addas i gynnal datblygiadau ynni llanw. Mae hyn yn golygu y gallwn dyfu diwydiant llwyddiannus yng Nghymru sy'n darparu ffyniant a hefyd yn cefnogi ein hamcanion datgarboneiddio. Rydym yn mabwysiadu ymagwedd drawslywodraethol at y cyfleoedd a gynigir gan forlynnoedd llanw, megis cadwyni cyflenwi, seilwaith sgiliau a gofynion statudol. Rydym eisoes yn datblygu ein cronfa sgiliau ac yn darparu cefnogaeth ymarferol ac ariannol i gyfleoedd ynni sy'n cyflymu'r trawsnewid carbon isel yn yr ardaloedd hyn.
Byddaf yn ymgynghori ar gynllun morol cenedlaethol drafft ar gyfer Cymru yr haf hwn. Bydd y cynllun yn tynnu sylw at arwyddocâd strategol ein hadnoddau llanw ac yn darparu fframwaith integredig ar gyfer datblygiad cynaliadwy ein moroedd. Mae'r ymagwedd hon yn ein galluogi i sicrhau bod prosiectau o gwmpas y DU yn gallu dod â’r budd economaidd mwyaf posibl i Gymru drwy ddatblygu arbenigedd a chadwyni cyflenwi i roi sylfaen gadarn inni i ymgysylltu â diwydiant ac â Llywodraeth y DU.
Mae angen i Lywodraeth y DU, sydd nawr yn ystyried canfyddiadau'r adroddiad, ymgysylltu'n llawn â ni wrth iddi ddatblygu polisi morlynnoedd llanw a’i roi ar waith. Yn wir, rydym wedi datblygu sylfaen wybodaeth helaeth i gefnogi'r diwydiant, sy'n cael ei gydnabod gan Hendry yn ei adroddiad. Rwy'n gobeithio y bydd cyhoeddi adroddiad Hendry yn rhoi digon o sicrwydd i Lywodraeth y DU i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar y diwydiant hwn. Rydym yn edrych ymlaen at drafod beth mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ei wneud am yr adroddiad. Mae swyddogion yn gweithio ar draws y Llywodraeth i ystyried argymhellion yr adroddiad a byddaf yn rhoi diweddariad pellach i’r Aelodau cyn gynted ag y byddaf yn gwybod i ba gyfeiriad y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu mynd.
Felly, i gloi, rydym wedi datgan yn gyson ein hymrwymiad mewn egwyddor i gefnogi datblygu diwydiant morlynnoedd llanw cynaliadwy yng Nghymru. Rydym wedi tynnu sylw at ein cefnogaeth i ddiwydiannau yng Nghymru, ac at y ffaith bod Cymru yn ddelfrydol ar gyfer datblygiadau o'r fath, ar yr amod bod buddion o’r datblygiadau yn cael eu cadw o fewn Cymru. Mae'r ymrwymiad hwn wedi'i nodi yn ein rhaglen lywodraethu, 'Symud Cymru Ymlaen', ac rwyf nawr yn edrych ymlaen yn fawr at glywed barn yr Aelodau eraill am egwyddor morlynnoedd llanw a'r cynnig sy’n destun y ddadl heddiw.