<p>Canfyddiadau’r Gyllideb Werdd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 15 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Plaid Cymru 1:30, 15 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych yn gywir, mae’r gyllideb werdd yn sôn am godiadau treth neu doriadau a wynebwn, a dyfodol anodd iawn yng Nghymru. Ond un peth y gallem ei wneud i helpu fyddai atal arian rhag gadael Cymru. Fe roddaf enghraifft. Yng Ngorllewin Caerdydd, mae Iarll Plymouth ar fin gwneud tua £1.4 biliwn yn fras o werthiant tir a fydd yn dinistrio cefn gwlad yno. Felly, y cwestiwn yw: pam na wnewch chi ddeddfu, fel bod cyngor Caerdydd, a chynghorau eraill tebyg iddo, yn gallu ailddosbarthu tir yn gyflym fel tir amaethyddol? Yna, gallai Llywodraeth Cymru ei brynu—yn yr achos hwn, am oddeutu £7 miliwn. Ac yn yr achos hwn, gallech atal £1 biliwn rhag gadael Cymru, gan ddiogelu’r ased ar yr un pryd.