<p>Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Caerdydd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 15 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 1:39, 15 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod dros Gaerffili am ofyn y cwestiwn pwysig hwn. Roedd gennyf ddiddordeb yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet pan siaradodd am y ddyletswydd statudol. I ba raddau y bydd y ddyletswydd statudol honno’n gosod darpariaethau ar gyfer ailddosbarthu cyfoeth yn deg ar draws prifddinas-ranbarth Caerdydd? Er enghraifft, a fydd disgwyliad y bydd y brifddinas-ranbarth yn creu clystyrau twf dynodedig ar draws y brifddinas-ranbarth fel bod yr angen i fuddsoddi yn ardaloedd ymylol y brifddinas-ranbarth wedi’i ymgorffori yn y cynllun economaidd hwnnw, er mwyn i ni allu troi ardal Blaenau’r Cymoedd, er enghraifft, yn fwa o ffyniant yn hytrach na choridor o danfuddsoddi?