<p>Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Caerdydd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 15 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:40, 15 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’r Aelod yn nodi pwyntiau diddorol iawn a chawsant eu hadlewyrchu i raddau yn adroddiad Greg Clark ar dwf a chystadleurwydd ar draws prifddinas-ranbarth Caerdydd. Yn y diwedd, Lywydd, mater i’r cabinet, a fydd yn cael ei ffurfio yn awr o ganlyniad i’r bleidlais a gynhaliwyd yn y 10 awdurdod lleol, fydd gwneud penderfyniadau sydd o fudd i’r rhanbarth cyfan. Byddant yn cyflwyno prosiectau y bydd gennym broses briodol ar eu cyfer bellach i gwestiynu a chytuno ar y prosiectau hynny. Y pwynt a wneuthum mewn perthynas â chwestiwn Hefin David oedd y byddwn yn cyflwyno cynigion drwy’r Papur Gwyn ar gyfer deddfu fel ei bod yn glir i’r bobl o gwmpas y bwrdd fod yn rhaid iddynt ganolbwyntio ar anghenion yr holl ranbarth pan fyddant yn gwneud y penderfyniadau hynny, er y bydd pob un ohonynt yn cynrychioli un o 10 o gydrannau bwrdd y ddinas-ranbarth.