Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 15 Chwefror 2017.
Diolch, Lywydd. Weinidog, un o swyddogaethau traddodiadol cynghorau lleol yw’r maes tai. Ond weithiau gall rheoleiddio gormodol fod yn faen tramgwydd, yn enwedig i gwmnïau adeiladu tai llai o faint, ac mae rhai o’r rheoliadau hyn yn ymwneud â madfallod dŵr cribog. Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno Papur Gwyn sy’n cynnig cynllun gwrthbwyso ar gyfer madfallod. Byddai hyn yn caniatáu i ddatblygwyr adeiladu ar safleoedd sy’n cynnwys pyllau madfallod cyn belled â’u bod yn talu am ddarparu cynefinoedd da ar gyfer madfallod mewn mannau eraill, fel bod y madfallod, fel rhywogaeth, yn parhau i ffynnu. Roeddwn yn meddwl tybed a oeddech o’r farn y gallai cynghorau lleol yng Nghymru fynd i’r afael â’r prinder tai yn well pe bai cynllun o’r fath yn cael ei gyflwyno yma.