Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 15 Chwefror 2017.
Wel, Lywydd, nid wyf yn gyfarwydd â’r cynllun, er fy mod yn siŵr fod fy nghyd-Aelod, Carl Sargeant, sydd â chyfrifoldeb am dai, yn ymwybodol ohono. Mae gennym darged uchelgeisiol iawn ar gyfer tai fforddiadwy yma yng Nghymru. Rydym yn edrych ar bob math o ffyrdd o gyflymu’r broses o gyflawni’r targed hwnnw. Mae’r camau sy’n cael eu cymryd i gynnal ein bywyd gwyllt a’n rhywogaethau dan fygythiad yn bwysig hefyd. Rwy’n siŵr y bydd fy nghyd-Aelod eisiau edrych ar y cydbwysedd a geir yn y Papur Gwyn i weld a oes unrhyw beth y gallem ddysgu ohono yng Nghymru.