Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 15 Chwefror 2017.
Ie, diolch. Mae angen cael cydbwysedd, ond rwy’n falch eich bod yn ei ystyried er fy mod yn sylweddoli mai cyfrifoldeb Gweinidog arall ydyw yn awtomatig. Ond diolch i chi.
Nawr, gall cydymffurfio â rheoliadau fod yn fater sy’n codi dro ar ôl tro i gynghorau. Yn amlwg, mae angen rheoliadau—rheoliadau synhwyrol, hynny yw—ond mae rheoliadau’n ychwanegu cost. Un ddadl fynych y byddwn yn ei chael yma dros y ddwy flynedd nesaf yn ôl pob tebyg fydd pa reoliadau’r UE y byddwn eisiau eu cadw mewn gwirionedd. Cafwyd problemau mawr gyda chasgliadau gwastraff cartref yn y blynyddoedd diwethaf. Yng Nghaerdydd, mae’r gweinidog cabinet perthnasol, Bob Derbyshire, wedi nodi’r angen i gydymffurfio â rheoliadau’r UE ar sawl achlysur, ond yn fuan ni fydd yn rhaid i ni gydymffurfio â hwy mwyach. O ystyried hynny, a yw’n amserol i gynghorau adolygu eu polisïau casglu gwastraff yn awr?