Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 15 Chwefror 2017.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Nawr, y tro diwethaf y gofynnais gwestiynau i chi yn rhan o’ch brîff llywodraeth leol, roeddwn yn sôn am daliadau traffig yng Nghaerdydd ac fe ddywedoch y byddech yn ysgrifennu ataf, ac yn wir, fe wnaethoch hynny. Felly, diolch i chi am y wybodaeth a roesoch. O ran taliadau parcio a throseddau traffig a gâi eu casglu gan gyngor Caerdydd a chynghorau eraill—Caerdydd oedd yr enghraifft a ddefnyddiais; wrth gwrs, mae’n berthnasol drwy Gymru—fe ddywedoch y byddai’r dirwyon hyn yn cael eu clustnodi ar gyfer yr adran benodol dan sylw. Felly, rwy’n meddwl tybed sut rydych chi, fel Llywodraeth, yn sicrhau bod dirwyon yn cael eu clustnodi.